Sêl bendith i fagiau ailgylchu newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024
Red bags

Mae cynlluniau i gyflwyno bagiau ailgylchu newydd i helpu i wella effeithlonrwydd y gwasanaeth a lleihau sbwriel wedi cael sêl bendith.  

Bydd taflenni gwybodaeth yn esbonio beth fydd yn mynd i mewn i'r bagiau coch yn cael eu dosbarthu gyda'r bagiau nes ymlaen yn y flwyddyn. 

Bydd y bagiau newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer plastig, caniau, tuniau a chartonau a byddant yn cael eu casglu'n wythnosol, ochr yn ochr â bocsys du, bagiau cardbord a biniau gwastraff bwyd. Bydd gwydr, papur, batris a thecstilau yn parhau i fynd i mewn i'r blychau du.

Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu yn unol â Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casgliadau Ailgylchu.   

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: “Rydym yn deall y gallai rhai pobl fod yn poeni am storio cynhwysydd arall, ond mae'r bagiau yn fwy na'r blychau du felly dim ond un bag ac un bocs fydd angen ar y rhan fwyaf o bobl, yn hytrach na sawl blwch. Gellir plygu'r bagiau hefyd a'u storio y tu mewn i'r blychau du pan fyddant yn wag.

“Mae llawer o bobl eisoes yn gwahanu eu deunyddiau ailgylchu i wahanol flychau du, sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i’r criwiau.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi'r ymdrechion y mae cynifer o bobl yn eu gwneud i helpu i wella ein cyfradd ailgylchu yn Nhorfaen. "

Bydd y bagiau newydd yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth ailgylchu am fod plastig, caniau, tuniau a chartonau yn cael eu llwytho ar y tryciau gyda'i gilydd.

Bydd caeadau y gellir eu selio ar y bagiau hefyd, tebyg i'r bagiau cardbord - a fydd yn lleihau'r risg o ran eitemau'n cwympo allan neu'n cael eu chwythu i ffwrdd. 

Y gobaith yw y bydd gwelliannau i'r gwasanaeth yn annog pobl i ailgylchu mwy.  

Yn 2023, dywedodd 87% o'r bobl a gymerodd ran yn arolwg Codi'r Gyfradd, y byddent yn barod i wahanu eu heitemau hailgylchu.

Atebion i’ch cwestiynau am y bagiau coch 

Dysgwch mwy am ailgylchu yn Nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2024 Nôl i’r Brig