Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Mawrth 2022
Yr wythnos hon, mae Cyngor Torfaen wedi croesawu pedwar gyrrwr HGV newydd i’r tîm gwastraff ac ailgylchu.
Mae recriwtio gyrwyr a llwythwyr ychwanegol yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn cerbydau ailgylchu a staff.
Yr wythnos diwethaf derbyniodd y cyngor gyflenwad o bum cerbyd ailgylchu newydd, ac mae chweched yn ymuno â'r fflyd yn fuan.
Ym mis Mai, bydd dau gerbyd gwastraff trydan newydd yn ymuno â fflyd y cyngor, a chanol 2023 bydd 19 o gerbydau ailgylchu newydd yn cyrraedd y strydoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Trwy gyflogi pedwar gyrrwr HGV newydd gallwn gael mwy o gerbydau allan i gasglu deunydd ailgylchu a gwastraff.
“Bydd yr aelodau newydd o’r tîm yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i’r gwasanaeth ar ôl bod yn brin o staff ers tro oherwydd anawsterau recriwtio gyrwyr HGV ac absenoldeb staff oherwydd covid.
“Hoffwn ymddiheuro i drigolion unwaith eto am unrhyw anghyfleustra y maent wedi’i wynebu dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i wella’r gwasanaeth, ac mae gennym gynlluniau tymor byr, tymor canol a thymor hir ar waith i wella’r gwasanaeth a’n perfformiad.
“Amcangyfrifir mai ein cyfradd ailgylchu eleni yw 63 y cant felly bydd ein buddsoddiad yn ein helpu i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant, erbyn 2024/25.”
Mae recriwtio ar gyfer y tîm gwastraff ac ailgylchu yn parhau, gyda mwy o swyddi llwythwyr a gyrwyr yn cael eu hysbysebu yr wythnos hon. Ewch i'r dudalen swyddi ar wefan y cyngor i ddarganfod mwy.
I gael gwybod mwy am ailgylchu yn Nhorfaen ac i gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu arbennig ewch i'n gwefan. Gallwch hefyd ddilyn #Torri’rCarbonTorfaen ar gyfryngau cymdeithasol.