Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Mehefin 2022
Mae’r Parti yn y Parc yn dychwelyd i Bont-y-pŵl eleni, yn cynnwys ffair, perfformiadau byw a Titan the Robot o raglen Britain’s Got Talent.
Disgwylir i ryw 3,000 o bobl fwynhau’r digwyddiad ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 9, a fydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau am ddim fel rhedeg bynji, trampolîn bynji, parth dymchwel dynol a phaentio wynebau.
Bydd yr hwyl yn dechrau am 11am ac yn mynd tan 5pm, gyda phlant a staff o Feithrinfa Osbourne Lodge yn cymryd rhan mewn gorymdaith ‘Enfys o Ddathliadau’ trwy’r parc o 11.45am ymlaen.
Bydd tua 60 o stondinau yn cynnig amrywiaeth o grefftau, bwyd a gwybodaeth cymorth.
Bydd yr adloniant yn cynnwys:
- Sioe Gŵn – gydag All Creatures Great and Small
- Celf a chrefft am ddim gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen
- Artistiaid balŵns a swigod, a chonsuriwr
- Hwyl a gweithgareddau gyda Chartrefi Melin
- Tenis a golff gyda Datblygiad Chwaraeon Torfaen
- Gwasanaethau Hamdden ac Ieuenctid Torfaen – amrywiaeth o weithgareddau
- Band Trends yn perfformio ar y Prif Lwyfan o 3pm – 4pm
Bydd parcio am ddim yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, gyda pharcio ar gael hefyd ym meysydd parcio Trosnant Road, y Ganolfan Ddinesig, Riverside a Rosemary Lane. Bydd gwasanaethau arferol gyda’r bysiau.
Mae yna nifer o lwybrau teithio llesol sy’n arwain at Barc Pont-y-pŵl ac mae trigolion yn cael eu hannog i ddefnyddio’r rhain yn gyntaf er mwyn lleihau traffig trwy ganol y dref a’r ardaloedd cyfagos.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, y Cynghorydd Matt Ford: “Rydym yn falch dros ben o weld y Parti yn y Parc yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o ohirio. Hoffai’r Cyngor Cymuned ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ŵyl brysur iawn, yn llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan”.
Mae’r Parti yn y Parc yn cael ei drefnu a’i reoli gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl a’i gefnogi gan Mike Bendell, Swyddog Iechyd a Diogelwch.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar www.pontypoolcc.gov.uk neu drwy dudalennau Facebook a Twitter @PontypoolComCouncil