Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Mae Joshua Herring, cic-focsiwr 18 oed o Bont-y-pŵl, wedi cipio medal aur a gwregys Pencampwriaeth y Byd yng Ngêmau'r Byd WMAC (World Martial Arts Council).
Roedd Joshua yn cynrychioli Cymru, ac enillodd fedal arian hefyd yn ei gategori cic isel parhaus yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Ngweriniaeth Tsiec fis Medi eleni.
Mae cyraeddiadau Joshua wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth grant o £1,000 gan Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen, a gyfrannodd at y costau ar gyfer cymryd rhan yn y gêm a'i hyfforddiant.
Meddai: "Roedd cael y grant gan Mic Morris yn golygu'r byd i mi. Rhoddodd gyfle i fi i gystadlu ar y lefel uchaf a chynrychioli Cymru yn llawn balchder. Rwy'n ddiolchgar i'r Ymddiriedolaeth am gredu ynof i a chefnogi fy mreuddwydion.
Dechreuodd taith cic-focsio Joshua pan oedd yn 17 oed, wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ei hyfforddwr Rob Taylor, Pencampwr Cic-focsio’r Byd 20 gwaith, sy'n ei hyfforddi yn Devils Lair Kickboxing yn Oakdale.
Enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Cymru WKU ym Mhontardawe, Abertawe, yn gynharach eleni, yn ogystal ag ennill pedair medal aur ym Mhencampwriaethau Prydain WMAC a Phencampwriaeth Agored Lloegr WMAC.
Mae Ymddiriedolaeth Mic Morris, sy'n ymroddedig i gefnogi athletwyr ifanc uchelgeisiol yn Nhorfaen, wedi cyhoeddi bod y rownd nesaf o geisiadau am gyllid bellach ar agor ac y bydd yn cau ym mis Rhagfyr. I wneud cais, ewch i wefan Cyngor Torfaen.
Meddai cadeirydd Ymddiriedolaeth Mic Morris, Christine Vorrhes: "Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi Joshua. Mae ei gyraeddiadau yn dyst i’w ymroddiad a'i ddyfalbarhad, ac rydyn ni’n hyderus y bydd yn parhau i ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae grantiau Mic Morris yn cynnig cyfle gwych i athletwyr yn Nhorfaen i gael cefnogaeth ariannol ar gyfer eu gorchwylion chwaraeon."
Am ragor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, cysylltwch â Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 neu anfonwch neges -bost at Christine Philpott - christine.philpott@torfaen.gov.uk