Gwasanaeth carolau brenhinol ar y Fferm

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025
Royal farm visit

Diolchwyd i arwyr cymunedol lleol mewn digwyddiad arbennig ar Fferm Gymunedol Greenmeadow yr wythnos hon.

Ddydd Iau, ymunodd y Fferm yng Nghwmbrân ag Abaty Westminster a 14 o gymunedau lleol eraill ar draws y DU i gynnal gwasanaeth carolau cymunedol Gyda’n Gilydd dros y ‘Dolig.

Trefnwyd y digwyddiad - yr unig un yng Nghymru - gan Sefydliad Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru ac roedd yn cynnwys tua 300 o westeion a wahoddwyd, plant ysgol a chynrychiolwyr y gymuned.

Darllenodd Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, neges arbennig gan Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru.

Yn y llythyr roedd y geiriau: "Yn ei hanfod, mae'r Nadolig yn sôn am gariad, ar ffurf y gweithredoedd symlaf, mwyaf dynol. Nid ar ffurf arwyddion sentimental neu fawreddog ond rhai addfwyn. Ennyd o wrando, gair o gysur, sgwrs gyfeillgar, help llaw, anrhegion. Efallai bod y gweithredoedd syml hyn yn ymddangos yn fach, ond maent yn cyfrannu at dapestri hardd bywyd yr ydym i gyd yn rhan ohono.

"Mae'r gwasanaeth carolau hwn yn cynnig ennyd i ni fod gyda’n gilydd. Cyfle i ddathlu ysbryd y gymuned a gwasanaeth, ac i anrhydeddu'r cydberthnasau gweladwy ac anweladwy sy'n ein huno ni i gyd."

Fe fu gwesteion yn mwynhau darlleniadau a pherfformiadau gan gorau Ffederasiwn Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Eva, ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân, a Band Pres Casnewydd.

Cawsant gyfle hefyd i fwynhau lluniaeth a chwrdd â rhai o anifeiliaid y Fferm. Rhoddwyd tocyn teulu am ddim i bawb a ddaeth.

Ymhlith y rheiny a ddaeth i’r digwyddiad roedd Emma Rees, yr oedd ei merch Lia yn canu gyda Ffederasiwn Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Eva.

Roedd yn brofiad arbennig iawn i Emma a berfformiodd yn nigwyddiad gŵyl y geni cyntaf y Fferm yn blentyn, ym 1992.

Meddai Emma: "Mae gen i atgofion melys o fod yn nigwyddiad gŵyl y geni ar y Fferm pan oeddwn ni yn yr ysgol gynradd ac rwy’n cofio gweld fy llun ar y wal yno am flynyddoedd lawer wedi hynny. Mae'n hyfryd bod fy merch yn cael profiad tebyg nawr ar y Fferm newydd."

Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Roedd hi'n noson wych yn dathlu rhai o'n gwirfoddolwyr cymunedol anhygoel. Hoffwn ddweud diolch wrth  bawb sy'n estyn llaw yn ein cymunedau lleol a dymuno Nadolig Llawen iawn iddynt."

Bydd cyngherddau carolau Gyda’n Gilydd Dros y ‘Dolig yn cael eu darlledu ar ITV ac ITVX Ddydd Nadolig.

Ail-agorodd Fferm Gymunedol Greenmeadow fis Medi yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnau.

Am fanylion gweithgareddau ac oriau agor dros gyfnod yr Ŵyl, neu i archebu tocynnau, cliciwch isod.

Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynllun i weithio'n agosach gyda chymunedau. I fod yn rhan o’r sgwrs am Fargen newydd Torfaen, ewch i Cymryd Rhan Torfaen.

Fferm Gymunedol Greenmeadow

 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/12/2025 Nôl i’r Brig