Blaenafon yn rhwydo buddugoliaeth gyda chyrtiau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 3 Hydref 2024
tennis courts

Mae cyrtiau tenis diddefnydd ym Mlaenafon yn mynd i gael eu trawsnewid i fod yn gyfleuster chwaraeon amlbwrpas newydd.

Bydd y cyrtiau tenis ar Middle Coedcae Road yn cael eu hadnewyddu er mwyn creu ardal gemau aml-ddefnydd ar gyfer tenis, pêl-fasged a phêl-rwyd.

Daw hyn mewn ymateb i alw cynyddol am bêl-fasged a phêl-rwyd yn yr ardal, a ddaeth i’r amlwg mewn arolwg chwarae mewn ysgolion ac a adleisiwyd gan gymuned Blaenafon.

Ariennir y prosiect gan £102,000 o Gronfa Cydweithredu Cyrtiau Chwaraeon Cymru, gyda  £15,235 yn ychwanegol o arian Adran 106 – cyfraniad gan ddatblygwyr fel rhan o gytundebau cynllunio.

Bydd yr ardal gemau newydd yn cynnwys system dechnoleg i’r gatiau, a fydd yn galluogi defnyddwyr i neilltuo’r cyrtiau ar-lein trwy system Club Spark Tenis Cymru.

Y gobaith yw y bydd y dull yma nid yn unig yn gwella profiad defnyddwyr ond y bydd hefyd yn helpu i ddiogelu’r cyrtiau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth.

Disgwylir i waith adeiladau ddechrau yng nghanol mis Hydref, gyda disgwyl cwblhau’r gwaith ddiwedd Tachwedd.

Canfu’r arolwg chwaraeon mewn ysgolion, gan dîm Datblygiad Chwaraeon Cyngor Torfaen, fod 45% o bobl ifanc wedi mynegi diddordeb mewn mwy o gyfleusterau pêl-fasged yn y fwrdeistref.

Dywedodd Holly Hinchey, Swyddog Datblygiad Chwaraeon Torfaen: “Roeddem ni’n gwybod bod yna awydd am bêl-fasged yn Nhorfaen, ond roedd angen mwy o dystiolaeth arnom ni i fwrw ymlaen.

"Rhoddodd yr arolwg chwaraeon lais i’r angen hwnnw ac mae wedi ein galluogi ni i gael cynllun peilot o sesiynau, creu clwb a datblygu cyfleusterau newydd i ganiatáu i ni gefnogi twf un o gampau cyflymaf eu twf Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at wylio’r gamp yn datblygu.”

Unwaith y bydd y cyrtiau wedi cael eu cwblhau, mae tîm datblygiad chwaraeon y cyngor yn gobeithio gallu cynnig sesiynau hyfforddiant pêl-fasged, pêl-rwyd, a thenis.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau, y Cyng. Fiona Cross: "Fel rhan o amcanion llesiant ein Cynllun Sirol, mae’r cyngor yn ymroddedig at hyrwyddo gweithgaredd chwaraeon a chorfforol yn y gymuned trwy gynnwys mwy o bobl mewn gweithgareddau iach ac ehangu cyfleoedd i gymryd rhan.

"Mae cefnogaeth lafar a chyfrannol y gymuned leol wedi bod yn allweddol wrth wthio’r datblygiad yma ymlaen.  Rwy’n edrych ymlaen at effaith gadarnhaol y cyfleuster chwaraeon yma’n cael i’r gymuned leol gael mwynhau."

Mae’r datblygiad newydd yma’n dilyn gwaith adnewyddu diweddar ar gyrtiau ym Mharc Cwmbrân a Pharc Pont-y-pŵl, a dderbyniodd gyfanswm o £220,000 gan y Gymdeithas Tenis Lawnt, Chwaraeon Cymru, Cyngor Torfaen, ac arian Adran 106. 

Am fwy o wybodaeth am weithgareddau chwaraeon a hamdden ym Mlaenafon, cysylltwch â Thîm Datblygiad Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 neu, danfonwch e-bost at sportsdevelopment@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2024 Nôl i’r Brig