Cyfle i ddweud eich dweud am gyfleusterau chwaraeon a hamdden yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Hydref 2024

Mae ymgynghoriad i gasglu barn trigolion am weithgareddau chwaraeon, hamdden a ffitrwydd lleol yn mynd rhagddo heddiw.

Mae'r arolwg yn rhan o ymrwymiad Cyngor Torfaen i wella llesiant trwy ffyrdd actif o fyw, ac mae yna botensial i drawsnewid yr ardal yn gyrchfan hamdden o'r radd flaenaf.

Mae manteision gweithgarwch corfforol ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol wedi'u dogfennu'n dda, ond nid oes eglurder ynghylch faint sy’n cymryd rhan yn lleol.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw adnabod y chwaraeon a'r gweithgareddau y mae pobl yn eu mwynhau a dysgu sut maen nhw'n eu darganfod. Mae hefyd yn ceisio dod o hyd i ardaloedd lle mae’r ddarpariaeth yn brin a deall y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan.

Bydd yr arolwg ar agor tan hanner dydd, ddydd Llun, 4 Tachwedd 2024. I gymryd rhan, ewch i wefan Dweud Eich Dweud y Cyngor.

Bydd yr adborth a gesglir yn hanfodol wrth lunio Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Llesiant Cymunedau Cyngor Torfaen.

Nod y strategaeth hon yw gwneud cyfleoedd hamdden yn fwy hygyrch, cefnogi talent eithriadol ym myd chwaraeon, a thynnu sylw at effaith gadarnhaol chwaraeon a hamdden ar lesiant yn  gyffredinol.

Meddai Stuart Lawrence, Rheolwr Datblygu Chwaraeon y Cyngor: "Rydyn ni am sicrhau bod Torfaen yn dod yn gyrchfan hamdden o’r radd flaenaf yn y dyfodol, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio ei thirwedd naturiol i ddenu ymwelwyr ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau amrywiol.

"Mae cefnogi clybiau chwaraeon lleol i fod yn hybiau cymunedol, a sicrhau bod y cyfleusterau iawn yn y mannau iawn, yn elfennau allweddol o'r weledigaeth hon."

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae’r ymgynghoriad yma’n gam pwysig tuag at lwyddo yn amcanion ein cynllun sirol o gylch iechyd a lles.  Ein nod yw creu cymuned fywiog, egnïol ble mae chwaraeon a hamdden yn rhan ganolog o wella ansawdd ein bywydau.”

“Trwy ddeall anghenion a dewisiadau ein trigolion, gallwn roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn  gweithgareddau corfforol sy’n hyrwyddo bywyd mwy iach.”

Bydd y Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Llesiant Cymunedau yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Rhagfyr 2024, a bydd diweddariadau rheolaidd ar wefan Dweud Eich Dweud Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/10/2024 Nôl i’r Brig