Sadwrn Bwyd Stryd Newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12 Medi 2024
street-food-saturday-press-release_original

Mae dydd Sadwrn yn Nhorfaen newydd fagu blas!

Gan ddechrau'r penwythnos hwn, bydd Marchnad Pont-y-pŵl yn croesawu chwech o'r gwerthwyr bwyd mwyaf cyffrous o bob rhan o dde Cymru, yn rhan o gyfres o stondinau bwyd dros dro newydd.

Y cyntaf fydd The Towpath Inn, o Gilwern, ger Y Fenni, sy'n magu enw da am eu pitsas Detroit-aidd.

Byddan nhw’n gweini tafelli o bitsa peperoni, madarch portsini a chennin syfi, caws, a nduja yn Stondin Rhif 24 ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, rhwng 12pm a 4pm ddydd Sadwrn 14 Medi. Rhaid archebu pitsas cyfain ymlaen llaw. Gallwch archebu ymlaen llaw yma.

I ddilyn, fe fydd The Queen Pepiada, a fydd yn gweini bwydydd o Venezuela ddydd Sadwrn 21 Medi; Dirty  Gnocchi o Farchnad Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Medi; Mex Co ddydd Sadwrn 12 Hydref, a’r bwriad yw gwahodd Crackwlin, Pwdin a'r enwog Beefy Boys ym mis Tachwedd.

Bydd cyfle i’r rheiny sy’n ymweld â'r farchnad ddydd Sadwrn hyn i weld y bandiau byw Huw James a Forsaken hefyd. Fe fyddan nhw’n perfformio rhwng 11am a 2pm.

Mae digwyddiad Planetariwm Pont-y-pŵl gan Techniquest wedi gwerthu allan.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Trwy gefnogi gwerthwyr bwyd lleol, rydyn ni’n dathlu'r amrywiaeth eang o fwydydd cyffrous sydd ar gael, a hefyd yn helpu i gefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn dod i fwynhau'r bwyd sydd ar gael yn ystod ein digwyddiadau Sadwrn Bwyd Stryd ac y byddan nhw'n llwyddo i ddenu stondinwyr bwyd cyffrous newydd i’r farchnad yn fuan."

I nodi lansiad Sadwrn Bwyd Stryd ym Mhont-y-pŵl, gallwch gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill pryd o fwyd am ddim i ddau yn Dirty Gnocchi trwy garedigrwydd y blogiwr Jake Heckles a Dirty Gnocchi. Dilynwch Street Food Saturdays ar Instagram am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am stondinwyr a digwyddiadau ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar Facebook ac Instagram.

Mae Dydd Sadwrn Bwyd Stryd yn rhan o gynlluniau digwyddiadau Canol y Dref sydd wedi derbyn £50,000 yn 2024/25 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2024 Nôl i’r Brig