Wedi ei bostio ar  Dydd Llun 16 Medi 2024
		
Bydd rhan o le chwarae a pharc sglefrio Parc Pont-y-pŵl yn cau hyd nes clywir yn wahanol oherwydd pryderon am gwlfer tanddaearol. 
Mae ymchwiliadau wedi datgelu difrod sylweddol i gwlfer o dan yr offer aml-chwaraeon ger y parc sglefrio, sydd wedi achosi i'r tir suddo. 
Bydd y gwaith o atgyweirio'r cwlfer yn dechrau heddiw ac mae disgwyl iddo barhau am ychydig wythnosau. 
Dywedodd Mark Thomas, Dirprwy Brif Swyddog Priffyrdd a Newid Hinsawdd: “Mae'r lle chwarae yn boblogaidd iawn ac mae'n ddrwg gennym fod angen i ni gau rhan ohoni, ond ein prif flaenoriaeth yw iechyd a diogelwch. 
“Mae'n anodd dweud am ba hyd y bydd y parc ar gau ar hyn o bryd. Mae angen cloddio'r tir a gallai hyn ddatgelu materion mwy helaeth. 
“Ond bydd y lle chwarae yn dychwelyd i'w gyflwr gwreiddiol pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.” 
Mae’r offer aml-chwaraeon wedi bod ar gau ers mis Mehefin pan sylwyd ar yr ymsuddiant am y tro cyntaf. 
Dysgu mwy am barciau yn Nhorfaen