Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Ionawr 2022
Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus ar reoli glaswelltir ar draws awdurdodau lleol Gwent, caiff dull gweithredu Natur Wyllt o reoli ei gydlynu eleni i gynnwys ardaloedd ehangach ar draws Gwent, gyda’r genhadaeth o’i wneud yn ‘gyfeillgar i beillwyr’ drwy alluogi mwy o flodau gwyllt i dyfu yn ein gofodau gwyrdd.
Bydd y prosiect, a gyflwynir fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, yn cysylltu gyda chymunedau lleol ar draws De Ddwyrain Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o ddirywiad peillwyr ac annog perchnogaeth a grymuso cymunedol i gyflenwi camau gweithredu fydd yn eu helpu i adfer.
Bydd Natur Wyllt yn sefydlu dull gweithredu cydlynol at reoli gofodau gwyrdd, a gaiff hefyd ei alw yn Seilwaith Gwyrdd, i greu cynefinoedd peillwyr cyfoethog mewn blodau gwyllt ar draws 5 ardal awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen). Caiff Cod Gweithredu a rhaglen hyfforddiant ei gyflwyno, gan gefnogi rheolaeth peillwyr effeithlon o fewn y rhanbarth.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Polisïau Peillwyr ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau gwelliant tir graddfa fawr ar gyfer peillwyr, gan greu rhwydweithiau ecolegol gwydn.
Mae gweithgareddau a digwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2022 i hyrwyddo rheoli blodau gwyllt a peillwyr, felly cadwch olwg am ddiweddariadau pellach ar y wefan neu ein dilyn ar Twitter@Natureisntneat a @Gwentgreengrid i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod cabinet Cyngor Torfaen dros yr amgylchedd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu adeiladu ar y cynnydd ym mhob un o’r awdurdodau lleol i wella bioamrywiaeth glaswelltiroedd, gan gynnwys ymdrechion gwych gan ein Timau Strydlun Gweithredol, i roi tro ar drefniadau rheolaeth amgen ledled Torfaen i gefnogi peillwyr. Mae peillwyr yn rhan hanfodol o ecosystemau; mae angen paill o flodyn arall ar y rhan fwyaf o blanhigion er mwyn cwblhau cylch bywyd a chynhyrchu ffrwythau a hadau yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn ein cyflenwad bwyd.
Mae gwenyn, gloÿnnod byw a llawer mwy o bryfed yn peillio 88% o blanhigion gwyllt a 75% o rywogaethau cnydau byd-eang. Serch hynny, mae peillwyr o dan fygythiad. Ers yr 1980au, mae hanner y rhywogaethau peillio wedi mynd yn llai cyffredin ar led ac mae poblogaethau gwenyn a phryfed hofran wedi dirywio 30% yn eu niferoedd. Er bod peth gwelliannau wedi bod, diolch i newidiadau fel ein polisi lladd gwair dewisol, mae yna waith i’w wneud o hyd ac mae yna nifer o gyfleoedd eleni i wneud gwahaniaeth.”
Mae gan Went nifer o rywogaethau o beillwyr sydd mewn perygl, gan gynnwys y Gardwenynen Feinlais prin iawn.
Mae newidiadau i helpu cadw rhywogaethau blodau yn fyw am fwy o amser nid yn unig yn darparu bwyd a chynefinoedd ar gyfer y peillwyr a rhywogaethau eraill, ond hefyd yn cynnwys amsugno dŵr, yn dal a storio carbon ac yn gwella iechyd y pridd. Mae ymchwil yn awgrymu fod creu amgylcheddau sy’n cynnig ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a llesiant meddwl pobl, gan eu hannog i arafu a mwynhau edrych ar flodau, pryfed a bywyd gwyllt arall.
Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o raglenni a gyflwynir dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.
Mwy o wybodaeth am Grid Gwyrdd Gwent