Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11 Medi 2024
Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i gymuned Ponthir wrth i gyfleusterau chwaraeon a chymunedol newydd gael eu hagor yn swyddogol yng Nghlwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir.
Wedi'i agor yn swyddogol gan gyn bêl-droediwr Rhyngwladol ac Uwch Gynghrair Cymru, Danny Gabbidon, dathlodd y digwyddiad brosiect datblygu pedair blynedd y clwb, sydd wedi ei droi'n brif gyrchfan ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau cymunedol.
Roedd y prosiect sylweddol yn cynnwys creu tri chae pêl-droed newydd, a lefelu'r cae criced a'r prif gaeau pêl-droed. Erbyn hyn mae gan bob arwyneb chwarae systemau draenio tanddaearol blaengar.
Mae'r hen dŷ clwb wedi cael ei ailgynllunio'n llwyr i gynnwys pedair ystafell newid newydd ar gyfer timau, dwy ystafell newid i swyddogion, a thoiledau i'r anabl.
Adeiladwyd hwb cymunedol newydd hefyd, gan ddarparu man amlbwrpas at ddibenion cymunedol amrywiol, a bydd hefyd yn dŷ clwb i dros 500 o aelodau ac ymwelwyr.
Yn ogystal â'r adeiladau newydd, gosodwyd maes parcio newydd, ynghyd â system wanhau dŵr-wyneb arbennig a gynlluniwyd i leihau'r perygl o lifogydd.
Mae'r cyfleusterau'n addas i'w defnyddio gan bob rhywedd a grŵp oedran ac mae pob ardal â phatio wedi cael ei hadnewyddu a'i chodi i roi mynediad gwastad i'r adeiladau.
Meddai cyn Gyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Clwb, John Parfitt, a arweiniodd y gwaith o chwilio am gyllid allanol, "Mae'r cyfleusterau hyn wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o dimau chwaraeon ond hefyd er budd y gymuned leol.
"Mae'r gymuned wedi cofleidio'r hyn sydd gan y Clwb i'w gynnig trwy ein cefnogi tra roeddem yn ceisio caniatâd cynllunio a thrwyddedau, a thrwy ddewis y Clwb fel y lle i ymweld â'r teulu."
Mae'r buddsoddiad o £750,000 yn y cyfleusterau newydd hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad dros y pedair blynedd ddiwethaf i dros filiwn o bunnau.
Sicrhawyd yr arian trwy Sefydliad Pêl-droed Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, a Chriced Cymru, ynghyd â chyfraniadau o adnoddau'r Clwb ei hun.
Dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn cyfleusterau cymunedol a chwaraeon a wnaed erioed ym Mhonthir.
Ychwanegodd Tony Pead, Trysorydd a Chyfarwyddwr y clwb, sydd wedi bod yn allweddol wrth reoli'r prosiect: "Hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau, ffrindiau a chymdogion lleol y mae eu cefnogaeth wedi bod mor hanfodol i'r canlyniad hwn."
Meddai David Leech, Cyfarwyddwr Strategol Oedolion a Chymunedau Cyngor Torfaen: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o ddull gweithredu a arweinir gan y gymuned. Trwy rymuso grwpiau lleol fel Clwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir, rydym yn eu galluogi i gymryd yr awenau ac arwain y gwaith o greu cyfleusterau sy'n diwallu anghenion eu cymuned.
"Mae rôl y cyngor fel galluogwr wedi galluogi'r clwb i harneisio brwdfrydedd ac adnoddau lleol, gan arwain at gyfleuster a fydd o fudd i drigolion am flynyddoedd i ddod."
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd hwn a darpariaethau chwaraeon ar y safle, cysylltwch â Chlwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir ar 07970 578879 neu e-bost info@ponthirscc.co.uk