Ymgynghoriad hawliau tramwy

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Medi 2024

Mae trigolion yn cael eu gwahodd i roi eu barn er mwyn helpu i wella llwybrau hawliau tramwy yn y fwrdeistref. 

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn hanfodol i alluogi pawb i gael mynd at lwybrau diogel ar gyfer cerdded, seiclo a marchogaeth, sy’n cyd-fynd â llwybrau ymyl y ffordd, sydd fel arfer yn cynnig mynediad i gerddwyr yn unig. 

Yn Nhorfaen, mae yn 230 milltir (370km) o lwybrau cyhoeddus, llwybrau marchogaeth a ffyrdd cefn sy’n cael eu rheoli gan y cyngor.  

Mae yna gynlluniau nawr i ddiweddaru Cynllun Gwella Hawliau Tramwy y Cyngor, datblygu strategaeth mynediad i wella cysylltiadau rhwng llwybrau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer teithio llesol.  

Gallwch gyfrannu at y cynllun newydd trwy roi eich barn am ein llwybrau tramwy cyhoeddus, p’un ai ydych chi’n mynd atyn nhw ar droed, mewn cadair olwyn neu sgwter symudedd, neu ar feic neu geffyl.  

Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein neu drwy alw heibio un o’r sesiynau canlynol:   
Dydd Mawrth 17 Medi yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, 1pm-3pm. 
Dydd Iau 19 Medi yng Nghanolfan Hamdden Pont-y-pŵl, 10am-hanner dydd. 
Dydd Gwener 20 Medi yn Eglwys Fethodistaidd Llanyrafon, Cwmbrân, 4pm-6pm. 

Neu gallwch gymryd rhan ar-lein 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Fel cymuned, mae ein llwybrau cyhoeddus yn hanfodol i’n cysylltu ni â’n gilydd a’r mannau awyr agored sydd wrth ein bodd.  

“Un o amcanion lles y cyngor yw gwneud Torfaen yn lle mwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau yn gymdeithasol ac yn gorfforol. Rydym hefyd yn ymrwymedig at warchod ein hamgylchedd a helpu pobl i fyw bywydau mwy iach i wella eu lles meddyliol a chorfforol.” 

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Sadwrn 5 Hydref 2024. 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig