Wedi ei bostio ar Dydd Llun 9 Medi 2024
Mae yna gais i drigolion helpu i lunio cynlluniau rheoli newydd i warchod a gwella parciau mwy o faint y Cyngor.
Bydd ffocws y cynlluniau ar annog mwy o bobl i ddefnyddio'r parciau, gwarchod a gwella bioamrywiaeth a nodi cyfleoedd i fuddsoddi a datblygu yn y dyfodol.
Bydd gan bob parc ei gynllun rheoli ei hun. Fe fydd yn canolbwyntio ar gynnal a chadw’r cyfleusterau sydd yno’n barod ac yn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyfleusterau pellach. Bydd pob cynllun hefyd yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd wedi codi wrth ymgynghori â'r cyhoedd.
Bydd ffocws y strategaeth ar:
- Barc Blaenafon
- Ardaloedd hamdden Cwmbrân (Llyn Cychod, Northfields a Southfields)
- Parc Cwmbrân
- Parc Llyn Pysgod, Tref Gruffydd
- Parc Glansychan, Abersychan
- Parc Pontnewydd
- Parc Pont-y-pŵl
Mae gan breswylwyr hyd nes hanner nos, nos Lun 30 Medi, i lenwi’r holiadur sy’n holi sut maen nhw'n defnyddio'r parciau a beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Eich Cyfle Chi i Ddweud Eich Dweud yn yr holiadur ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Parciau
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae angen i ni sicrhau ein bod yn rheoli pob agwedd ar ein parciau yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.
"Ond, os nad ydyn ni’n gwybod sut mae ein trigolion yn defnyddio ein parciau, a beth sy’n bwysig iddyn nhw, allwn ni ddim cynllunio ar gyfer eu dyfodol.
"Bydd yr ymatebion i'r holiadur yn ein helpu i greu cyfres o gynlluniau rheoli i gefnogi ceisiadau am grantiau allanol i ariannu’r gwaith o’u cyflawni, gan sicrhau bod ein parciau'n parhau i fod yn addas at y diben."
Mae wedi bod yn bosibl paratoi'r cynlluniau diolch i £49,120 o gyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.