Maethu Preifat
Mae tîm maethu Torfaen wrthi ar hyn o bryd yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â maethu preifat. Daeth y ddeddfwriaeth Maethu Preifat i rym i ddarparu cefnogaeth i’r rheini sydd ynghlwm wrth drefniadau Maethu Preifat.
Fe allai Maethu’n Breifat weithio i chi os:
- ydych yn gofalu am blentyn rhywun arall yn eich cartref drwy drefniadau preifat, os nad ydych yn berthynas agos;
- os yw eich plentyn chi yn derbyn gofal yng nghartref rhywun arall dan drefniadau tebyg;
- os yw’r plentyn dan un ar bymtheg oed – neu deunaw os yw’r plentyn wedi ei gofrestru’n anabl;
- os bwriedir i’r trefniadau barhau’n hwy nag wyth diwrnod ar hugain; ac
- os cytunwyd ar y trefniadau heb unrhyw gyswllt gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Os ydych yn meddwl bod hyn yn disgrifio sefyllfa yr ydych ynddi ar hyn o bryd, yna mae angen i chi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol o fewn 48 awr o’r amser yr ydych yn dod yn ymwybodol ohono.
Os ydych yn bwriadu dod yn rhan o’r fath drefniadau tebyg, dylech ddweud wrth yr awdurdod lleol o leiaf chwe wythnos cyn i’r trefniadau ddechrau.
Mae’r Tîm Lleoli Teuluoedd yn medru cynghori unrhyw un sy’n meddwl bod y fath ofynion cyfreithiol yn effeithio arnynt, felly os oes gennych unrhyw ymholiadau neu ofidion, ffoniwch 01495 766697.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/09/2022
Nôl i’r Brig