Llety â Chymorth
Beth yw Llety â Chymorth?
Yn Nhorfaen, mae’r Cynllun Llety â Chymorth yn cael ei redeg gan Llamau.
Mae’r Cynllun Llety â Chymorth yn darparu cartrefi i bobl ifanc 16 i 24 oed a all fod yn gadael gofal, neu na allent, efallai, fyw gyda’u teuluoedd. Mae’r Cynllun yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol, annibynnol, fel y gallent yn y pen draw symud i lety annibynnol eu hunain.
A allaf i gynnig Llety â Chymorth?
Am bwy ydych chi’n chwilio?
Rydym yn chwilio am bobl o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol. Mae ein pobl ifanc yn dod o bob cefndir ac amrywiol gefndiroedd diwylliannol, ac mae’n bwysig y gallwn gynnig cartrefi priodol iddynt nhw.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Nid oes angen unrhyw gymhwyster penodol arnoch i ddarparu llety – mae’n llawer pwysicach y gallech wneud i berson ifanc deimlo’n ddiogel a bod croeso iddyn nhw. Efallai eich bod wedi gweithio gyda phobl ifanc o’r blaen, neu efallai eich bod wedi magu plant eich hun, ond bydd gennych ddiddordeb ym mhryderon pobl ifanc an yn mwynhau eu cwmni.
Beth am amgylchiadau fy nheulu?
Gallwch fod yn sengl, yn briod neu’n byw fel cwpl. Nid yw o bwys os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat, ond rhaid bod gennych ystafell sbâr, a rhaid i chi fod yn barod i rannu eich cartref gyda’r person ifanc sy’n dod i fyw gyda chi.
Sut mae’n gweithio?
Beth fydd angen i mi ei wneud?
Mae rhai pobl ifanc sy’n gadael gofal neu na allent fyw gyda’u teuluoedd nad ydynt yn barod i fyw ar eu pennau eu hunain. Fel darparwr Llety â Chymorth byddwch yn helpu’r person ifanc i ddysgu’r sgiliau maent eu hangen i fyw’n annibynnol. Efallai y bydd angen i chi gynnig help ymarferol iddynt gyda thasgau coginio, cyllidebu neu sut i ddelio â biliau. Efallai y bydd angen i chi eu hannog gyda gwaith coleg neu roi cymorth emosiynol iddynt nhw. Mae pob person ifanc yn wahanol, ac felly mater i chi a nhw yw penderfynu gyda’ch gilydd pa fath o gymorth maent ei angen.
A fyddaf yn gallu cyfarfod y person ifanc cyn iddyn nhw symud i mewn?
Byddwch, er bod y Cynllun yn gorfod delio gydag argyfyngau weithiau.
Yn delfrydol, byddwch chi a’r person ifanc gyda staff i weld sut rydych yn tynnu ‘mlaen ac i wneud yn siŵr nad oes rheswm amlwg pam na fyddai’r trefniant yn gweithio. Os yw popeth yn mynd yn iawn, bydd y person ifanc yn symud i’ch cartref yn raddol, gan aros un noson, yna cyfres o nosweithiau, cyn symud i mewn yn llawn-amser yn y diwedd. Gallwch adael i ni wybod ar unrhyw adeg os nad ydych eisiau parhau gyda’r lleoliad.
Weithiau rydym yn cael argyfwng pan fydd angen i ni gael hyd i lety ar frys. Mewn achos fel hyn, mae’n annhebygol y cewch gyfle i gyfarfod y person ifanc ymlaen llaw, ond ni fydd gofyn i chi byth wneud unrhyw beth nad ydych yn hapus gydag e, a bydd y person ifanc ond yn symud i mewn os bydd pawb yn hapus gyda’r trefniadau. Ni fydd angen i chi gymryd achos argyfwng byth os nad ydych eisiau gwneud hynny.
Am faint fydd y person ifanc yn aros gyda mi?
Bydd gan bob person ifanc anghenion gwahanol, ond eich rôl chi yw eu cael i’r pwynt lle maent yn teimlo’n ddigon hyderus i fyw ar eu pen eu hunain. Gall hyn fod yn unrhyw gyfnod o ddau fis i ddwy flynedd. Bydd yn dibynnu’n fawr iawn ar y person ifanc. Bydd eu dyddiad gadael yn cael ei gynllunio ymlaen llaw ac mewn cytundeb gyda chi, y person ifanc a staff Llamau.
Beth sy’n digwydd os wyf eisiau i’r person ifanc adael?
Os bydd eich amgylchiadau yn newid, ac os ydych eisiau i’r person ifanc adael, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn cael hyd i lety arall.
Os bydd y person ifanc yn ymddwyn yn afresymol tuag atoch neu rywun ar eich aelwyd, cysylltwch â ni a bydd staff Llamau yn trafod y problemau a chynorthwyo i geisio datrys y sefyllfa.
Pa gymorth fyddaf yn ei gael?
Pa hyfforddiant fyddaf yn ei gael?
I ddechrau, byddwch yn cael cymorth gan Llamau a fydd yn ystyried eich rôl fel darparwr Llety â Chymorth ac amddiffyn pobl ifanc.
Wedi hynny, bydd cyfleoedd hyfforddant parhaus ynglŷn â materion eraill a all effeithio’r bobl ifanc sydd wedi eu leoli gyda chi, gan gynnwys hyfforddiant rydych chi yn gofyn amdano. Rydym yn deall bod gennych ymrwymiadau eraill ond cynhelir cyrsiau hyfforddiant o bryd i’w gilydd drwy gydol y flwyddyn.
Beth os oes gennyf gwestiwn rhwng sesiynau hyfforddi?
Byddwn yn trefnu bod gweithiwr Cynllun Llety â Chymorth yn ymweld â chi yn rheolaidd ar adegau a gytunwyd i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn, ac i ddelio gydag unrhyw broblemau a all godi. Byddwch hefyd yn gallu cysylltu gyda staff Llamau yn ystod oriau swyddfa, Llun i Gwener, gydag unrhyw gwestiynau, pa bynnag mor fach y maent yn ymddangos!!
Beth am arian?
A fyddaf yn cael fy nhalu?
Byddwch! Byddwch yn derbyn lwfans am fod yn ddarparwr llety o hyd at £120 yr wythnos. Bydd taliadau yn mynd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gan Llamau Cyf.
Bydd y person ifanc sy’n byw gyda chi yn talu tâl gwasanaeth tuag at gostau bwyd, gwres, goleuadau a dŵr ac ati.
A fydd y taliadau hyn yn effeithio fy mudd-daliadau?
Na. Mae darparwyr llety yn derbyn lwfans na ddylai effeithio eu budd-daliadau. Bydd staff Llamau yn gallu eich cynghori ar yr elfennau penodol yma.
A fydd dod yn ddarparwr llety yn effeithio fy yswiriant?
Rydym yn awgrymu eich bod yn hysbysu eich cwmni yswiriant, oherwydd gall cymryd lletywr effeithio eich polisi ar gyfer yswiriant cynnwys.
Sut fyddwch yn penderfynu os wyf yn addas?
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ddarparwr Llety â Chymorth, bydd asesiad trylwyr yn cael ei wneud. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod unrhyw berson ifanc sy’n dod i’ch cartref yn ddiogel, eich bod yn deall yn union yr hyn a ddisgwylir gennych chi, a gallwn adnabod unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.
Beth y mae’r broses gymeradwyo yn ei chynnwys?
- Cyfweliadau gyda chi a thri chanolwr a enwir gennych chi er mwyn cael gwybod mwy amdanoch chi fel person;
- Archwiliad eiddo i wneud yn siŵr bod y llety yn ddiogel ac yn addas;
- Archwiliad heddlu i gael gwybod am unrhyw gollfarnau blaenorol (dim ond collfarnau troseddol difrifol a fydd yn eich anghymhwyso yn awtomatig);
- Archwiliadau gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eich bod yn berson priodol i weithio gyda phobl ifanc.
Unwaith y mae’r wybodaeth berthnasol gennym, bydd panel o staff o Llamau yn ystyried eich cais.
Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?
Cysylltwch â’r Gweithiwr Datblygu Llety â Chymorth i drafod y mater ymhellach.
Josh Horgan
Gweithiwr Datblygu Llety â Chymorth
Llamau
70 Stow Hill
Casnewydd
NP20 4DW
Ffôn: 07966 981006
Ebost: joshhorgan@llamau.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 07/08/2021
Nôl i’r Brig