Lleoliadau Maeth i Rhiant a Phlentyn
Mae yna adegau lle mae ceisiadau yn dod i law i dderbyn rhiant a'i b/phlentyn. Gall hyn fod o ganlyniad pryderon rhianta blaenorol gyda'r teulu neu riant sy'n agored i niwed sydd angen cymorth ychwanegol. Mae'r mathau hyn o leoliadau maeth yn dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd mai'r Llysoedd sy'n galw amdanynt.
Trwy dderbyn rhiant a phlentyn byddwch yn rhoi cyfle i'r rhiant fagu ei b/phlentyn ei hun mewn amgylchedd diogel ac ysgogol. Bydd disgwyl i chi ddarparu goruchwyliaeth 24 awr ac asesu gallu'r rhiant i fagu'r plentyn, a fydd, yn ei dro yn llywio'r broses o wneud penderfyniad a llunio cynllun gofal y plentyn.
Er y gall y rôl hon fod un dwys sy'n gofyn llawer gennych, mae'n rôl sydd yn hynod o werth chweil. Meddai April, sydd wedi bod yn ofalwr maeth i rhiant a phlentyn am y 7 mlynedd diwethaf "Mae'n wych gwybod eich bod wedi chwarae rhan mewn newid a grymuso rhieni i fyw yn annibynnol a diogel gyda'u plant."
Fel rhywun sy’n ofalwr maeth i riant a phlentyn, byddwch yn derbyn cymorth a goruchwyliaeth reolaidd yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol ymroddedig i rieni a phlant yn ogystal â phecyn ariannol hael. Os oes gennych ddiddordeb yn y math hwn o ofal maeth ac os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Lleoli Teuluoedd.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/09/2022
Nôl i’r Brig