Mabwysiadu
Mae yna nifer o resymau pam na all rhai plant fyw gyda'u rhieni biolegol. Mae mabwysiadu yn galluogi'r plant hyn i fod yn rhan o deulu a fydd yn eu darparu â chartref sefydlog, diogel a chariadus, a magwraeth a fydd yn eu helpu i ffynnu.
Mabwysiadu yw'r broses sy'n golygu y daw plentyn yn aelod o deulu/theulu yn ôl y gyfraith a chael un neu ddau riant newydd.
Yn annhebyg i faethu, pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, bydd y plentyn hwnnw yn byw gyda'i rhieni newydd yn barhaol. Mae Gorchymyn Llys yn trosglwyddo hawliau'r rhieni biolegol i'r rhieni sy'n mabwysiadu. Rhydd hyn yr un cyfrifoldebau a hawliau â phob rhiant arall - a'r un boddhad i'r rhieni sy'n mabwysiadu.
Ar ôl i blentyn gael ei fabwysiadu, nid oes gan y rhieni biolegol unrhyw hawliau na chyfrifoldebau fel rhiant drosto ef/hi.
Daw'r plentyn yn aelod llawn o'r teulu sy'n mabwysiadu. Byddant yn cymryd cyfenw'r rhieni sy'n mabwysiadu ac yn cael yr un hawliau a breintiau a phetai nhw wedi cael eu geni iddynt - yn cynnwys yr hawl i etifeddu.
Nid yw mabwysiadu yn benderfyniad hawdd a bydd angen arnoch gyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth i'ch helpu i benderfynu ai mabwysiadu yw'r penderfyniad iawn i chi a'ch teulu.
Torfaen yw un o'r tri chyngor sy'n ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (gyda chynghorau Sir Fynwy a Blaenau Gwent).
Mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i:
- unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu
- rhieni sydd eisoes wedi mabwysiadu
- plant sydd wedi cael eu mabwysiadu (yn cynnwys y rheini sydd yn oedolion erbyn hyn)
- teuluoedd a pherthnasau biolegol.
Mae'r tîm cyfunol wedi ei leoli yng Ystad Parc Mamhilad , Pont-ypŵl .
Gwahanol fathau o blant
Bydd angen i nifer fach o blant sy'n 'derbyn gofal' gan gyngor Torfaen gael eu mabwysiadu ymhen hir a hwyr.
Babanod a phlant bach yw rhai o'r plant hyn ond nid dyma'r achos o hyd. Weithiau, gall y plant sydd yn chwilio am deuluoedd newydd fod o oed ysgol. Efallai y bydd gan eraill anawsterau dysgu, anghenion arbennig neu anableddau. Gall rhai plant fod o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig.
Weithiau mae'r plant yn rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd a byddai'n well gennym gadw'r brawd/brodyr a chwaer/chwiorydd gyda'i gilydd. Os ydych yn ystyried mabwysiadu efallai y byddwch am gynnig cartref sefydlog a hapus i ddau o blant neu fwy.
Bydd mwyafrif y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu wedi cael gorffennol anodd - fe allech roi dyfodol rhagorol iddynt.
Gwahanol fathau o bobl
Gallwch fabwysiadu plentyn yn gyfreithiol os ydych yn 21 oed, ond nid cyn hynny. Rhaid i chi hefyd fod yn byw yn gyfreithlon yn y DU am o leiaf blwyddyn gron cyn i chi fedru mabwysiadu plentyn ym Mhrydain.
Ni allwn ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi eu cael yn euog o droseddu yn erbyn plant.
Heblaw am yr eithriadau hynny, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Fe allech fod yn:
- sengl, briod, wedi ysgaru neu'n cyd-fyw (am o leiaf tair blynedd)
- heterorywiol neu'r rhai mewn perthnasoedd o'r un rhyw
- yn berchen ar dŷ neu'n rhentu
- yn gweithio neu'n ddi-waith
- o unrhyw darddiad ethnig neu gefndir diwylliannol
Nid oes terfyn oedran cyhyd ag y bod eich iechyd yn dda, a roddir yr un ystyriaeth i bobl anabl â'r rheiny sydd heb anableddau.
Noder os gwelwch yn dda, yn dilyn ymchwil feddygol i effaith ysmygu goddefol ar blant, efallai y bydd achos yn codi wrth ddod o hyd i blant ar gyfer mabwysiadwyr cymeradwy sy'n ysmygu. Ni fydd plant dan 5 oed yn cael eu paru â mabwysiadwyr sy’n ysmygu.
Y Broses Mabwysiadu
Mae’r broses mabwysiadu yn cymryd tua 6 mis, o’r ymholiad cychwynnol i’r cam cymeradwyo gan y sawl sy’n gwneud penderfyniad yn yr asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- mynychu sesiynau grŵp gyda darpar fabwysiadwyr eraill lle mae pawb yn trafod yr holl faterion ac yn dysgu o brofiadau'r sawl sydd eisoes yn mabwysiadu
- ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennym a chydweithio gyda ni yn ystod unrhyw wiriadau mae eu hangen i ni wneud yn ôl y gyfraith, megis gwiriadau meddygol, gwiriadau gan yr heddlu a chwblhau ffurflen adroddiad Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF)
- cael cyfarfodydd rheolaidd yn eich cartref gyda gweithiwr mabwysiadu a fydd yn gweithio'n agos iawn gyda chi trwy gydol y broses. Mae ein pecyn gwybodaeth yn amlinellu'r meysydd y byddwn yn eu cynnwys yn ystod y broses asesu
- cael eich cymeradwyo gan banel fel darpar fabwysiadwr
- trafod, gyda gweithiwr, y plentyn/plant yr ydych am eu mabwysiadu a gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth, o ran p'un ai a fyddant yn iawn i chi
- cyfarfod y plant a dod i'w hadnabod (gelwir y rhain yn "gyflwyniadau")
- os yw'r cyflwyniadau yn mynd yn dda, dod â'r plant i mewn i'ch cartref
- dilyn y broses gyfreithiol a'u mabwysiadu'n swyddogol
- derbyn cefnogaeth lawn gan eich gweithiwr cymdeithasol trwy gydol y broses
Mae ein pecyn gwybodaeth yn amlinellu'r cais mabwysiadu ac asesu mewn mwy o fanylder.
Os ydych yn ystyried mabwysiadu plentyn, neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Nôl i’r Brig