Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn cynnig cyfleoedd amrywiol i blant a phobl ifanc o bob oed a gallu drwy gyfrwng chwarae. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyfleoedd chwarae 7 diwrnod yr wythnos i ddiwallu anghenion cymunedau ledled Torfaen. Gyda dros 100 o wahanol brosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae bob blwyddyn, mae ein gwaith yn cael ei reoli drwy Gynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae'r cyngor sy'n bwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Rydym yn dîm o 19 o weithwyr yn ystod y tymor, sy’n derbyn cefnogaeth gan weithwyr sesiynol a gwirfoddolwyr. Yn yr haf, mae'r tîm yn cynyddu i dros 400 o weithwyr a gwirfoddolwyr i'n galluogi i gynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae yn ystod y gwyliau.
Ar hyn o bryd, mae pum thema gwaith yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Chwarae: -
Chwarae a Chynhwysiant
- Cymorth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc 5-11 oed sydd ag anableddau ac anghenion ymddygiadol
- Cymorth Ychwanegol i Blant 12 – 17 oed ag anghenion cymhleth ac anableddau dwys
- Cymorth wythnosol ac yn ystod y gwyliau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
- Cymorth wythnosol ac yn ystod y gwyliau i ofalwyr ifanc
- Sesiynau Chwarae a Seibiannau ar Benwythnosau ac yn ystod y Gwyliau
- Clwb Chwarae a Chynhwysiant Wythnosol
- Canolfan Asesu Chwarae
- Llogi Ystafell Synhwyraidd (Yn dod cyn hir)
Chwarae yn y Gymuned
- Sesiynau Chwarae Wythnosol i Deuluoedd
- Clybiau Chwarae Cymunedol Wythnosol
- Fforwm Misol - Dad a Fi
- Clwb Pêl-droed a Hwyl (Tymhorol)
- Clwb Lego
- Sesiynau Chwarae Newydd
- Clybiau Chwarae a Phontio
- Digwyddiadau Cymunedol
- Llwybrau Mwy Diogel i Chwarae – Sesiynau Sgwt-ffit a Beiciau
- Llyfrgell Benthyca Teganau
- Prosiectau Ymgynghori a Chyfranogi
Chwarae mewn Ysgolion
- Sesiynau Chwarae a Lles
- Cymorth Chwarae Cynhwysol mewn Ysgolion
- Sesiynau Chwarae a Dihangfa
- Sesiynau Chwarae a Gofal Cofleidiol
- Chwarae ar yr iard
- Sesiynau Chwarae Brecwast Cynnar
- Clybiau ar ôl ysgol
- LEGO – Build to Express
- Disgos Rhyngweithiol
Darpariaethau Chwarae yn ystod y Gwyliau
- Cynlluniau Chwarae Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 5- 11 oed
- Gwersylloedd Bwyd a Hwyl 5- 11 oed
- Gwersylloedd Chwarae a Gweithgareddau Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 8 – 11 oed
- Gwersylloedd Chwarae a Lles Hanner Tymor a Gwyliau'r Haf 5- 11 oed
- Chwarae a Seibiannau Hanner Tymor a Gwyliau’r Haf 5 – 17 oed
- Sesiynau Chwarae yn y Parc (Tymhorol)
- Gwersylloedd Chwarae a Phontio 8 – 13 oed
Gwirfoddoli a Hyfforddiant
- Prosiect Gwirfoddoli –16+
- Prosiect Cynorthwywyr Chwarae -14 - 15 oed (nifer cyfyngedig o leoedd)
- Lleoliadau yn y gwaith drwy ITEC ac ACT
- Profiad gwaith drwy ysgolion
- Lleoliadau Coleg a Phrifysgol
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Chwarae ar gyfer Ysgolion a Grwpiau Cymunedol
Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2025
Nôl i’r Brig