Chwarae yn y Ganolfan Ddinesig
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi agor cyfleuster chwarae newydd yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl i gefnogi rhieni a phlant dan 11 oed.
Mae'r 'Ystafell Chwarae' wedi'i lleoli ar Lawr 1 ac mae'n cynnig ystod amrywiol o ddarpariaethau chwarae i deuluoedd sydd wedi cael eu hatgyfeirio, yn cynnwys clybiau LEGO, chwarae i deuluoedd, grwpiau i dadau, grwpiau anabl a chlwb chwarae i ofalwyr ifanc.
Bydd créche hefyd ar gael i rieni sy'n derbyn hyfforddiant yn yr adeilad.
I fod yn gymwys, rhaid bod teuluoedd yn cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Chwarae drwy rwydweithiau cymorth fel Teuluoedd yn Gyntaf neu Flynyddoedd Cynnar Torfaen. Gellir hunanatgyfeirio drwy anfon e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk 
Amserlen
Amserlen Chwarae’r Ganolfan Ddinesig
| Menter | Grŵp Targed | Tîm | Gwybodaeth Bellach | 
|---|
| Clwb Dewch i Chwarae LEGO - Nod y sesiwn yw cynyddu sgiliau cymdeithasol, hyder a lles.  | Plant o ogledd y Fwrdeistref | Y Gwasanaeth Chwarae | Bob dydd Mawrth4pm - 5:30pm
 | 
| Chwarae i'r teulu. Sesiwn 1 - Nod y sesiwn yw cynnig amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd fynd ati i chwarae. | Teuluoedd a phlant (dan 5 oed) | Y Gwasanaeth Chwarae  | Bob dydd Llun12:30pm -2:00pm
 | 
| Chwarae i'r teulu. Sesiwn 2 - Nod y sesiwn yw cynnig amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd fynd ati i chwarae. | Teuluoedd a phlant (dan 5 oed) | Y Gwasanaeth Chwarae  | Bob dydd Mawrth12:30pm - 2:00pm
 | 
| Grŵp i dadau - Mae'r sesiwn yn rhoi cyfle i dadau (neu berthnasau eraill sy’n ddynion) ddod at ei gilydd a threulio amser o ansawdd gyda'u plant, gyda chefnogaeth tîm o staff profiadol. | Tadau/gofalwyr sy’n ddynion a phlant (dan 5)  | Y Gwasanaeth Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar  | Bob dydd Llun10:00am -11:30am
 | 
| Clwb Chwarae Gofalwyr Ifanc - Nod y sesiwn yw cefnogi gofalwyr ifanc o Dorfaen a rhoi'r lle a'r cyfle iddynt chwarae. | Gofalwyr Ifanc yng Ngogledd y Fwrdeistref (ond yn agored i bawb)    | Y Gwasanaeth Chwarae a Gofalwyr Ifanc Torfaen | Bob yn ail ddydd Iau4:30pm - 6:00pm
 | 
 Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2024 
 Nôl i’r Brig