Cyfleoedd Chwarae yn ystod Gwyliau Ysgol

Nodwch y gall y rhaglen newid ychydig bob hanner tymor. Cadwch lygad ar y wefan am ddiweddariadau bob hanner tymor. Am fwy o fanylion anfonwch e-bost at torfaenplay@torfaen.gov.uk

Ceisiadau am gymorth ychwanegol ar gyfer darpariaethau yn ystod gwyliau ysgol

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ddefnyddio darpariaethau chwarae cymunedol gan gynnwys yn ystod yr haf a hanner tymor.

Mynegi Diddordeb am Gymorth 1-1  

Darpariaeth Chwarae'r Haf

Mae rhaglen chwarae eang yn cael ei chyflwyno dros yr haf yn Nhorfaen. Mae’n cynnwys Cynlluniau Chwarae, Gwersylloedd Bwyd a Hwyl, Gwersylloedd Chwarae a Gweithgareddau, Sesiynau Chwarae yn y Parc, Gwersylloedd Chwarae a Phontio a Sesiynau Chwarae a Seibiant.

Bydd y sesiynau chwarae yn rhedeg o ddydd Llun 28 Gorffennaf hyd ddydd Iau 21 Awst 2025.

Byddwn ni’n cyhoeddi rhestr lawn o'r hyn a fydd yn cael ei ddarparu yn Nhorfaen yn ystod haf 2025, ar y dudalen hon ym mis Mehefin.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Chwarae

Ffôn: 01495 742951
E-bost: torfaenplay@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig