Fforwm Dad a Fi
Rydym yn cynnal fforwm chwarae misol ar gyfer tadau / dynion sy'n gofalu, a'u plant.
Mae'r grŵp yn cwrdd ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis yng Nghanolfan Plant Integredig Llwyncelyn rhwng 10.00am ac 11.30am.
Mae’r sesiynau’n rhoi cyfle i Dadau (neu berthnasau eraill sy'n ddynion) ddod ynghyd a threulio amser chwarae o safon gyda’u plant, gyda chymorth tîm bach o staff profiadol. Gall y sesiynau hefyd ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor trwy gyfeirio at asiantaethau sy'n bartneriaid
Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2024
Nôl i’r Brig