Ystafelloedd synhwyraidd
Mae gennym saith ystafell synhwyraidd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol sy'n byw yn Nhorfaen.
Rhaid i rieni, gofalwyr, neu weithwyr proffesiynol archebu’r ystafelloedd ymlaen llaw ac nid ydynt ar gael ar gyfer ymweliadau galw heibio.
Maent yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ond rydym yn croesawu rhoddion. I archebu, cysylltwch â Gwasanaeth Chwarae Torfaen ar torfaenplay@torfaen.gov.uk
Dyma leoliadau’r ystafelloedd synhwyraidd:
- Neuadd Gymunedol Glenside, Oddi ar Meadowbrook Avenue, Pontnewydd, Cwmbrân
- Eglwys Victory, Greenforge Way, Springvale, Cwmbrân
- Neuadd Mount Pleasant, Mount Pleasant Road, Pontnewydd
- Neuadd Glansychan, Glansychan Lane, Abersychan
- Lle Chwarae'r Ganolfan Ddinesig, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl
- Neuadd Gymuned Thornhill, Leadon Court, Bryn Eithin, Cwmbrân
- ‘Y Cockerel’ – Neuadd Gymuned Greenmeadow a St Dials, Cwmbrân
Gall oedolion ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol hefyd ddefnyddio'r cyfleusterau gyda gofalwyr – cysylltwch â'r gwasanaeth chwarae i gael gwybod mwy.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2025
Nôl i’r Brig