Darpariaeth arbenigol ADY
Mae saith darpariaeth arbenigol yn Nhorfaen.
Bydd penderfyniad ynghylch a yw eich plentyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer lleoliad arbenigol yn cael ei drafod gyda chi gan un o'n seicolegwyr addysgol.
Penderfynir ar leoliadau yn flynyddol. Bydd lleoliadau yn dechrau ym mis Medi.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cynnig lle i ddisgyblion yn ystod y tymor. Siaradwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol.
Darpariaeth arbenigol ADY
Enw'r Ddarpariaeth | Math | Natur y Ddarpariaeth | Ystod Oedran |
Ysgol Arbennig Crownbridge
Turnpike Road, Croesceiliog,
Cwmbrân. NP44 2BJ Rhif ffôn: 01633 624201
www.crownbridgeschool.co.uk
|
Ysgol arbennig
|
ADD ac anghenion cysylltiedig
|
3-19
|
Ysgol Gynradd Nant Celyn
Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ Rhif ffôn: 01633 624170
www.nantcelynprimary.co.uk
|
Canolfan adnoddau cynradd
UAA C
|
Canolfan adnoddau i’r byddar
|
5-11
|
Ysgol Gynradd Nant Celyn
Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ
Rhif ffôn: 01633 624170
Ffacs: 01633 624169
www.nantcelynprimary.co.uk
|
Canolfan adnoddau cynradd
UAA C
|
Anhwylder y sbectrwm awtistig
|
5-11
|
Ysgol Gynradd Maendy
Wayfield Crescent, Cwmbrân. NP44 1NH Rhif ffôn: 01633 483168
www.maendyprimary.co.uk
|
Canolfan adnoddau cynradd
UAA C
|
Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig
|
3-7
|
Ysgol Gynradd Pontnewydd
Bryn Celyn Road, Pontnewydd, Cwmbrân. NP44 1JW Rhif ffôn: 01633 483307 www.pontnewyddprimaryschool.co.uk
|
Canolfan adnoddau cynradd
UAA C
|
Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig
|
5-11
|
Ysgol Gyfun Abersychan
Incline Road, Abersychan, Pont-y-pŵl. NP4 7DF
Rhif ffôn/Ffacs: 01495 773068 www.abersychan.org.uk
|
Canolfan adnoddau uwchradd
UAA U
|
Anghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig
|
11-16
|
Ysgol Uwchradd Cwmbrân
Tŷ Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân. NP44 4YZ
Rhif ffôn: 01633 643950 Ffacs: 01633 643951 www.cwmbranhighschool.co.uk
|
Canolfan adnoddau uwchradd
UAA U
|
Anhwylder y sbectrwm awtistig
A chanolfan adnoddau i’r byddar
|
11-16
|
Darpariaeth ADY y tu allan i'r sir
Mewn nifer fach iawn o achosion, asesir bod gan rai plant anghenion difrifol a chymhleth na ellir eu diwallu'n lleol. Yn yr achosion hyn, gofynnir am leoliad arbenigol y tu allan i'r awdurdod. Byddwn yn adolygu cynnydd y disgyblion hyn i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion.
Trafnidiaeth i ddarpariaeth arbenigol
Os cytunwyd ar leoliad arbenigol a bod angen cludiant, bydd yn cael ei ddarparu gan wasanaeth trafnidiaeth y cyngor, a fydd yn cysylltu â chi.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig