Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr Ysgol

Os oes gennych unrhyw bryderon am allu eich plentyn i ddysgu neu ei ymddygiad, yn y lle cyntaf dylech siarad ag athro dosbarth eich plentyn, cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol (CADY) neu’r pennaeth.  

Fel cam cyntaf, mae'n bwysig iawn eich bod yn trafod eich pryderon gyda'r ysgol/darparwr addysg. Bydd llawer o blant yn cael trafferth gyda'u dysgu a'u hymddygiad ar ryw adeg yn ystod eu bywyd ysgol. 

Os oes angen cymorth ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc yn yr ysgol neu'r coleg, gellir ystyried bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Gall y rhain gynnwys y rhai a achosir gan anableddau dysgu neu anableddau corfforol. I ddarllen diffiniad llawn o’r hyn sy’n golygu anghenion dysgu ychwanegol, rhowch glic ar Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.  

I rai plant a phobl ifanc, mae'r anawsterau hyn yn rhai tymor byr neu'n effeithio ar faes penodol o'u haddysg yn unig. I eraill, bydd angen cymorth arnynt drwy gydol eu haddysg.

Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a cholegau prif ffrwd, sydd â chyllideb anghenion dysgu ychwanegol i ddarparu cymorth ac adnoddau.   

Cyfarfodydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Cynhelir y rhain i asesu a oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol. Byddant yn cynnwys y plentyn, ei rieni, staff yr ysgol a chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol.  

Byddant yn trafod yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn a'r teulu, pa gymorth sydd ei angen arno yn eu barn nhw, a'i obeithion ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn helpu i greu proffil un dudalen ar gyfer eich plentyn.

Os penderfynir bod gan eich plentyn ADY, rhaid cael Cynllun Datblygu Unigol o fewn 35 diwrnod gwaith. 

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae CDU yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol, fel gwybodaeth fywgraffyddol am y plentyn neu'r person ifanc, manylion cyswllt a gwybodaeth am y rhai sy'n gweithio gydag ef neu hi, a chyfraniadau gan y plentyn neu’r person ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch pedair prif agwedd hy 

  • 'yr hyn sy’n bwysig’ i’r plentyn/person ifanc
  • 'yr hyn sy’n bwysig i’r'/ y ffordd orau i gefnogi'r plentyn/person ifanc yn awr ac yn y dyfodol
  • 'yr hyn sy’n gweithio'
  • yr hyn sydd ddim yn gweithio?
  • cynllun gweithredu, yn amlinellu sut y bydd anghenion y plentyn/person ifanc yn cael eu diwallu, gan bwy, a sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu yn y dyfodol.

Caiff CDU ei adolygu'n rheolaidd gan bawb sy'n cyfrannu ato. I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau datblygu unigol, rhowch glic ar wefan yr elusen addysgol Snap Cymru 

Hysbysiad Dim CDU 

Mae Hysbysiad Dim CDU yn golygu bod eich plentyn wedi cael ei asesu fel un nad oes ganddo anghenion dysgu ychwanegol sy'n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Fodd bynnag, bydd pob ysgol a choleg yn dal i allu cynnig cymorth wedi'i dargedu i'ch plentyn trwy broffil un dudalen.  

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad Dim CDU, siaradwch ag ysgol neu goleg eich plentyn. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon â’u penderfyniad, gallwch ofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r manylion drwy e-bostio AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk. Dylech gynnwys enw eich plentyn, ei ddyddiad geni, manylion ei ysgol neu goleg ac amlinelliad o'ch gofidion.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Cynhwysiant
Ffôn: 01495 766929 or 01495 766968
E-bost: AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig