Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn Addysg Bellach

Os yw eich plentyn mewn addysg ôl-16 a'ch bod yn gofidio bod ganddo angen dysgu ychwanegol, cysylltwch â'i goleg neu ddarparwr addysg i ofyn am gyngor.  

Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag ADY yn mynychu coleg neu raglen hyfforddi Addysg Bellach (AB). Mae colegau AB yn darparu ystod eang o gyrsiau i ddiwallu anghenion dysgwyr ac mae ganddynt fap darpariaeth sy'n nodi'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael.  

Os oes gan eich plentyn CDU yn yr ysgol, bydd sgyrsiau am eu haddysg bellach yn dechrau ym mlwyddyn 9. Bydd adolygiad yn trafod y cyfleoedd a'r llwybrau sydd ar gael iddynt a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau am y cymorth sydd ar gael.

Gall Gyrfa Cymru a staff y coleg hefyd fod yn bresennol i gefnogi dysgwyr a'u rhieni yn y cyfarfodydd hyn.

Wrth gynghori ar goleg sy’n addas ar gyfer dysgwr ag ADY, mae ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn defnyddio'r Cod ADY fel eu canllaw wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.

Mae'r cod yn nodi, lle bynnag y bo'n bosibl, y dylai pobl ifanc allu derbyn eu haddysg a'u hyfforddiant ôl-16 yn lleol. Bydd y coleg yn cynnal ac yn cadw'r CDU ar gyfer y mwyafrif o ddysgwyr sydd ag ADY. 

Os yw’r broses CDU wedi asesu ac adolygu na fydd dysgwr yn gallu cyflawni ei ddeilliannau addysg a hyfforddiant a ddymunir yn lleol oherwydd bod ei anghenion yn sylweddol ac yn gymhleth, fel nad yw darpariaeth leol briodol yn gallu bodloni'r ddarpariaeth a nodwyd, gall yr awdurdod lleol benderfynu bod angen darpariaeth ôl-16 fwy arbenigol ar y disgybl a bydd yn asesu'r angen am Sefydliad Ôl-16 Arbennig annibynnol (ISPI).

I gael mwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y gall coleg ei ddarparu, ewch i wefan Braenaru ADY.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol am ddim i helpu i gael yr addysg gywir i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a bydd yn eu helpu drwy'r broses bontio. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar eu gwefan - www.snapcymru.org 

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Cynhwysiant
Ffôn: 01495 766929 or 01495 766968
E-bost: AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig