Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn safleoedd cyn-ysgol

Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol eto ond rydych yn poeni am ei allu i ddysgu neu ei ymddygiad, dylech drafod hyn yn y lle cyntaf gyda'ch ymwelydd iechyd, eich gwarchodwr plant neu eich darparwr blynyddoedd cynnar.

Bydd llawer iawn o blant yn cael trafferth o ran eu datblygiad a gellir ymyrryd yn gynnar i’w helpu.  

Mae gennym banel cymorth cynnar sy'n rhoi help a chymorth cynnar i deuluoedd sydd â phlant cyn oed ysgol sydd ag anghenion sy’n dod i’r golwg. Nod y panel yw uno'r gefnogaeth amlasiantaethol a defnyddio’r systemau a’r adnoddau sydd ar gael i’r eithaf.   

Cyfarfodydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Efallai y bydd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn penderfynu cynnal cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gasglu gwybodaeth a pharatoi cynllun i gefnogi eich plentyn.

Byddant yn trafod yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn a'r teulu, pa gymorth y maent yn ei gredu sydd ei angen arno a'i obeithion ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i greu Proffil Un Dudalen ar gyfer eich plentyn.

Yn dilyn ymyrraeth gynnar, cefnogaeth ac adolygiadau proffil un dudalen, os teimlir y gallai fod gan eich plentyn ADY, gall y lleoliad ofyn i’r awdurdod lleol gynnal asesiad ADY i benderfynu a oes angen cynllun datblygu unigol ar eich plentyn.  

Fel arall, gallwch ofyn am asesiad anghenion dysgu ychwanegol gan yr awdurdod lleol drwy e-bostio AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk.  

I gael gwybodaeth am gymorth blynyddoedd cynnar yn Nhorfaen, ewch i Cymorth i Deuluoedd Blynyddoedd Cynnar Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Cynhwysiant
Ffôn: 01495 766929 or 01495 766968
Ebost: AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig