Cwynion ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgolion
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad ysgol ynghylch ag oes gan eich plentyn angen dysgu ychwanegol, dylech drafod hyn gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol.
Os oes gennych ofidion o hyd, gallwch ofyn i Gyngor Torfaen ailystyried penderfyniad yr ysgol.
Y cyngor
Gellir cysylltu â'r cyngor ar unrhyw adeg yn ystod y broses ADY i drafod materion neu ofidion a allai fod gennych o ran y broses CDU neu benderfyniad a wnaed am addysg eich plentyn.
Mae'n bwysig bod eich gofidion yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch swyddog a enwir yn yr ALl a fydd yn hapus i'ch helpu (bydd yr enw ar y llythyrau rydych wedi'u derbyn gennym ni).
Pan fydd unrhyw fath o anghytuno, byddwn yn ceisio gweithio gyda chi i geisio datrys y mater. Fodd bynnag, lle nad oes modd datrys problemau, ac os yw’r mater yn rhan o apêl ADACW ffurfiol, mae'n bosibl y bydd angen cyfryngu a mynd ati’n fwy ffurfiol i ddatrys anghytundeb yn rhan o'r broses.
Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni
Mae gan y cyngor gytundeb gyda SNAP Cymru i ddarparu gwybodaeth a chyngor annibynnol am ddim i rieni plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y gwasanaeth yn trafod unrhyw bryderon sydd gennych ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer trafodaethau, mynychu cyfarfodydd ac ymweld ag ysgolion gyda chi os ydych yn dymuno.
Gallwch gael hyd i gymorth eiriolaeth annibynnol am ddim drwy Snap Cymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2025
Nôl i’r Brig