Allyriadau o gartrefi
Mae tua thraean o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan gartrefi. 
Bydd lleihau’r ynni yr ydych yn ei ddefnyddio yn lleihau eich ôl-troed carbon a'ch biliau ynni.  Mae cynyddu ailgylchu hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau o gartrefi.
Cymorth Grant
Mae nifer o grantiau ar gael i helpu aelwydydd i ddefnyddio mesurau effeithlonrwydd ynni os ydynt yn derbyn budd-daliadau penodol, ar incwm isel neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd perthnasol.  
Mae'r rhain yn cynnwys ECOFlex, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr a chynllun Nyth Llywodraeth Cymru. I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk 
Lleihau ynni yn y cartref
Gall ein tîm ynni roi cyngor ar leihau’r ynni yr ydych yn ei ddefnyddio a newid i ynni adnewyddadwy. Cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk
Gallwch hefyd gael cyngor gan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni 
I gael help gyda chostau os hoffech sicrhau bod eich cartref yn defnyddio ynni yn fwy effeithlon, ewch i'n tudalen cymorth costau byw.
Gall defnyddio llai o ddŵr - yn enwedig dŵr poeth – hefyd leihau allyriadau. I gael awgrymiadau, ewch i Dŵr Cymru Welsh Water 
Newid i ynni adnewyddadwy
Mae cyngor am bympiau gwres, paneli solar a boeleri biomas ar wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru. 
Mae Cynllun Cartrefi Clyd - Nyth yn rhoi cyngor am ddim ar well ynni yn y cartref, yn cynnwys ynni adnewyddadwy.  
Mae cynllun uwchraddio boeleri Llywodraeth y DU yn cynnig cymorth ariannol tuag at uwchraddio boeleri i bwmp gwres neu foeler biomas.
 Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2025 
 Nôl i’r Brig