Cynllun Ynni Lleol Torfaen

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru ddod yn garbon sero net erbyn 2050.

Mae carbon sero net yn cyfeirio at y cydbwysedd rhwng swm y nwyon tŷ gwydr sy’n cael ei gynhyrchu a'r swm sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer. 

Mae ein Cynllun Ynni Ardal Leol yn nodi’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn i systemau ynni yn Nhorfaen ddod yn sero net.

Bydd y cynllun yn dod yn rhan o Gynllun Ynni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. 

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes allweddol:

Gwella effeithlonrwydd ynni yn yr adeiladau presennol

Gallwn helpu canolfannau cymunedol, canolfannau chwaraeon, elusennau a busnesau i wella effeithlonrwydd ynni yn eu hadeiladau.

Yn 2024, gwnaethom gyflwyno 22 grant gwerth cyfanswm o £360,000 i helpu sefydliadau i fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni felly’n lleihau costau ac allyriadau. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael cyngor, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk

Datblygu ynni adnewyddadwy ar y tir

Mae canfod y potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn Nhorfaen yn rhan allweddol o ddatblygu system ynni sero net. 

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi cael ei phweru gan system trydan dŵr micro ers 2011.

Ynni’r haul yw prif ffynhonnell ynni adnewyddadwy yn Nhorfaen.

Rydym yn gweithio gyda Salix Finance i ariannu’r gwaith o osod paneli ffotofoltäig – a elwir hefyd yn baneli solar – ar adeiladau cymunedol, fel ysgolion a chanolfannau hamdden. Mae Salix Finance yn gwmni a ariennir yn gyhoeddus ac mae’n cynnig benthyciadau di-log i leihau costau ynni.

Ym mis Gorffennaf 2024, cymeradwyodd cynghorwyr gynllun i ymrwymo i Gytundeb Datblygu sy'n rhwymo'n gyfreithiol gyda chwmni cymdeithasol i archwilio’r potensial o datblygu seilwaith ynni ar safle Y British, yn Nhalywaun.

Datgarboneiddio trafnidiaeth

Rydym yn buddsoddi mewn mannau gwefru cerbydau trydan newydd yn y fwrdeistref ac yn datblygu a hyrwyddo llwybrau teithio llesol.

Mae ein tîm teithio llesol wedi gweithio gyda 15 ysgol i ddatblygu cynlluniau teithio llesol gydag ysgolion.

Mae potensial o ddatblygu cerbydau cludiant cymunedol hefyd yn cael ei ystyried.

Datgarboneiddio diwydiant

Rydym yn gweithio gyda busnesau bach i ganolig i gynnal archwiliad ynni a chanfod ffyrdd o arbed ynni a lleihau costau.

I drefnu archwiliad ynni busnes, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk

Atgyfnerthu a thrawsnewid rhwydweithiau ynni

Mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio opsiynau storio ynni trydan i ateb y galw yn y dyfodol. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i asesu gallu’r rhwydwaith nwy i gyflenwi hydrogen os oes angen.  

Y Camau Nesaf

Mae'r cynllun yn nodi camau tymor byr i ganolig rhwng 2024 a 2030. 

O'r 68 o gamau gweithredu a nodir yn y cynllun, mae angen i’r cyngor gyflawni 20 ohonynt.

Bydd gweddill y camau gweithredu yn cael eu harwain ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, neu’n cael eu cyflawni gan Wales and West Utilities neu gan Rhwydwaith Dosbarthu’r Grid Cenedlaethol.

Mae rhai o weithredoedd y cyngor eisoes ar y gweill fel rhan o weithgareddau Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/12/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Energy Management Team

E-bost: energy.management@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig