Y Rhaglen Gwydnwch Bwyd
Ein nod yw cynyddu’r bwyd fforddiadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn y fwrdeistref.
Mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn well i’r amgylchedd a’r economi leol a gall helpu i sicrhau cyflenwad bwyd mwy gwydn nad yw ffactorau byd-eang, fel sychder neu ryfeloedd yn effeithio arno.
Gall cyflenwad bwyd gwydn hefyd gynnig cyfleoedd i ddod o hyd i atebion hirdymor i dlodi bwyd, fel perllannau cymunedol a chynlluniau rhandir.
Ym mis Ionawr 2022, sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Torfaen a chytunwyd ar Siarter Fwyd, a oedd yn nodi ei Amcanion Bwyd Da sy’n canolbwyntio ar iechyd, cymuned, swyddi addysg a’r dyfodol.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Torfaen, Cymdeithas Wirfoddol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Tai Bron Afon, Tasty Not Wasty, Ymddiriedolaeth Trussell, FairShare Cymru a Sero Wastraff Torfaen.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y Rhaglen Gwydnwch Bwyd gwerth £1.2m yn helpu i gyflawni nodau’r bartneriaeth drwy:
- Gynnal Uwchgynhadledd Fwyd Torfaen yn flynyddol.
- Darparu grantiau Cynllun Bwyd Cymunedol ar gyfer grwpiau trydydd sector ac ysgolion i ddatblygu atebion cynaliadwy i dlodi bwyd.
- Rhoi grantiau i fusnesau lleol i'w galluogi i ychwanegu gwerth at gynnyrch presennol neu arallgyfeirio.
- Creu canolfan ddosbarthu bwyd gymunedol i leihau gwastraff bwyd, ailddosbarthu bwyd dros ben a chynyddu'r farchnad ar gyfer gwerthu bwyd lleol.
Ym mis Ebrill 2023, dyfarnwyd statws Man Bwyd Cynaliadwy i Dorfaen, diolch i waith Partneriaeth Bwyd Torfaen.
Ariennir y Rhaglen Gwydnwch Bwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a grantiau, cysylltwch â Food4Growth@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 06/02/2024
Nôl i’r Brig