Allyriadau busnes a thrydydd sector
Mae tua thraean o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan fusnesau.
Cynlluniau lleihau carbon
Gall ein tîm ynni helpu eich busnes neu sefydliad y trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon ac arbed arian.
Byddwn yn trefnu i ymweld â'ch safle i archwilio faint o ynni yr ydych chi’n ei ddefnyddio a gweithio gyda chi i baratoi cynllun lleihau carbon. Dylai cynllun lleihau carbon gael ei ddiweddaru’n flynyddol, i adlewyrchu'r cynnydd rydych wedi'i wneud, ac mae'n rhywbeth y mae cyflenwyr yn gofyn fwyfwy amdano.
Gall eich cynllun gynnwys cynnig i newid i ddewisiadau eraill sy’n arbed ynni fel goleuadau LED neu nodi grantiau ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy, fel paneli solar.
Rhwng 2023 a 2024, fe wnaethom helpu naw busnes a 22 o sefydliadau'r trydydd sector i baratoi cynlluniau lleihau carbon a chael cyllid grant ar gyfer mesurau arbed ynni.
I drefnu cynllun lleihau carbon, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk
Seilwaith cerbydau trydan
I gael cyngor ar gerbydau trydan a seilwaith gwefru ar gyfer eich busnes, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk
Casgliadau ailgylchu a gwastraff y sector masnach
Rhaid i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector wahanu deunyddiau ailgylchu cyn y gellir eu casglu. Mae ailgylchu mwy yn cyfrannu at leihau allyriadau.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2025
Nôl i’r Brig