Grant Datblygu Busnes Bwyd
Bwriad y Grant Cychwyn yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy’n datblygu, gyda phwyslais arbennig ar fusnesau bwyd sy’n dod ac arloesi, cynaliadwyedd a gwerth ychwanegol i systemau bwyd lleol.
Nod y grant yw:
- Annog datblygiad busnesau bwyd newydd gyda syniadau creadigol ar gyfer ychwanegu gwerth at gynnyrch.
- Cefnogi arallgyfeirio gweithrediadau presennol i fod yn fusnesau bwyd.
- Meithrin creu rhwydweithiau a chadwyni bwyd cynaliadwy.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyfle gwych i fusnesau bwyd newydd a rhai sy’n datblygu wneud cais am grantiau hyd at £5,000.
Pwy all wneud cais?
- Unigolion sy’n chwilio am gefnogaeth i lansio busnes bwyd newydd.
- Unigolion sy’n gweithredu busnes newydd ei sefydlu neu fusnes sydd mewn cyfnod cynnar sydd wrthi’n datblygu.
Meini Prawf
Bydd angen i fusnesau ddangos sut mae eu prosiect yn cyfrannu at un o’r Blaenoriaethau Bwyd Da canlynol.
- Ein Hiechyd
- Ein Cymuned
- Ein Swyddi
- Ein Haddysg
- Ein Dyfodol
Bydd angen i ymgeiswyr:
- Gyflwyno cynllun busnes perthnasol neu gytuno i gael eu cyfeirio at gefnogaeth i ddatblygu cynllun.
- Ymgysylltu â thîm Iechyd Amgylcheddol Torfaen.
Er bod y grant yn agored i bob busnes bwyd, nid yw’n cefnogi prosiectau sydd wedi eu hanelu at gynhyrchu bwydydd sy’n uchel o ran braster, halen a siwgr.
Gweithgareddau Cymwys
Gallwn gefnogi amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys:
- Hyfforddiant a Datblygiad
- Offer, gan gynnwys TG.
- Marchnata
- Nwyddau Gwyn
- Datblygiad Nwyddau
Gellir ystyried eitemau eraill
Costau’r Prosiect
Cyllid refeniw, mwyafswm o £5,000.
Mae’r grantiau i gyd yn gofyn am o leiaf 20% o arian cyfatebol gan yr ymgeisydd.
Sut mae’n gweithio?
Bydd angen i’r rheiny sy’n gwneud cais i fod yn rhan o’r cynllun hwn ddod a syniad arloesol gerbron sy’n cefnogi datblygiad eich busnes bwyd ac sy’n dangos bod yna fuddion amlwg a chanlyniadau cynaliadwy i’r prosiect.
Byddwch chi’n gyfrifol am reoli a gweithredu’r prosiect. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r holl wariant ar y prosiect.
Amserlenni Ceisiadau
Dylid cwblhau ceisiadau a’u cyflwyno gyda Chynllun Busnes erbyn 5pm ddydd Llun, 3ydd Tachwedd 2025. Bydd panel allanol yn penderfynu. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31ain Ionawr 2026.
Cysylltwch â Ni
I ofyn am becyn cais, cwblhewch y Ffurflen Ymholiad Busnes
Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2025
Nôl i’r Brig