Biliau Nwy a Thrydan

Cymorth i Aelwydydd

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol , mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan Help for Households sy’n rhoi cefnogaeth a chyngor ariannol i gyd mewn un man.

Ewch i weld pa gefnogaeth gyda chostau byw allai fod ar gael i chi helpforhouseholds.campaign.gov.uk 

Taliad Tanwydd y Gaeaf i bensiynwyr

Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958, gallech gael naill ai £200 neu £300 tuag at filiau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025. Gelwir hyn yn 'Daliad Tanwydd y Gaeaf'. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych chi neu'ch cymar yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn gymwys, byddwch fel arfer yn cael Taliad Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig. Ar gyfer mwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/winter-fuel-payment 

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Gwresogi Domestig

Cynllun rhad ac am ddim a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer preswylwyr Torfaen sydd ar incwm isel, yn derbyn budd-daliadau, sydd wedi bod mewn dyled ynni neu sydd â chyflwr iechyd sy’n gwaethygu wrth fyw mewn cartref oer. Mae ychwanegyn yn cael ei rhoi mewn systemau gwres canolog gwlyb neu foeleri i wella effeithlonrwydd ac yn gostwng biliau o hyd at ryw £168 y flwyddyn.

Mae'n agored i berchnogion tai a phobl sy'n rhentu'n breifat sydd â system wresogi wlyb neu foeler. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 1 Tachwedd 2024.I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch gary.meale@torfaen.gov.uk

Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr

Mae Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS) ar agor i gartrefi yng Nghymru ym mandiau treth y cyngor A i E gyda gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o D neu is.

Drwy'r cynllun gallech dderbyn mesurau inswleiddio megis insiwleiddio'r atig, waliau ceudod neu waliau solet. Yn dibynnu ar y mesur a argymhellir, gallai'r gosodiad fod yn rhad ac am ddim ar gyfer mesurau rhatach neu â chymhorthdal mawr ar gyfer mesurau drutach.

Gallwch wirio eich cymhwysedd a gwneud cais trwy ymweld â Gwneud cais am gymorth gan Gynllun Inswleiddio Prydain Fawr - GOV.UK neu cysylltwch â'ch cyflenwr ynni yn uniongyrchol i wneud ymholiad.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Gwerth hyd at £140. Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni am fwy o wybodaeth neu ewch i wefan Llywodraeth y DU www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme 

Taliad tywydd oer

£25 yr wythnos ar gyfer pob cyfnod 7 diwrnod o dywydd oer os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau. Am fwy o wybodaeth, ewch i coldweatherpayments.dwp.gov.uk 

Canolfannau Cynnes

Am fanylion mannau cynnes am ddim yn agos i chi, ewch i wefan Cysylltu Torfaen a chwiliwch am “canolfan gynnes”

Cyngor

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i gychwyn.

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Sefydliad nid-er-elw sy’n rhoi cyngor diduedd am ddim i’ch helpu i arbed ynni ac ymladd newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon deuocsid o’ch cartref. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni neu ffoniwch 0800 512 012.

Partneriaeth Leol Cyngor ar Ynni (LEAP)

Mae gwasanaeth Partneriaeth Cyngor Ynni Lleol (LEAP) yn cynnig cyngor ar ynni a mesurau arbed ynni am ddim. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un gydag incwm yr aelwyd o dan £31,000 neu sy’n derbyn amrywiaeth o fudd-daliadau. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch deborah.woodrow@ageconnectstorfaen.org neu ffoniwch 01495 769264.

Cymru Gynnes

Gwasanaeth cynhwysfawr a diduedd sy’n helpu pobl i leihau eu biliau ynni trwy newid cyflenwyr, grantiau inswleiddio a defnydd mwy clyfar. Ffoniwch Gyngor ar Bopeth ar 01633 876121 i siarad â Chynghorydd Ynni.

Nyth Cymru

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu i leihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.

Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i’r wefan llyw.cymru/nyth

Mesuryddion Clyfar

Gallan nhw helpu i fonitro eich defnydd o ynni a chael arbedion posibl yn eich cartref. Cysylltwch â’ch cyflenwr am fwy o wybodaeth.

Mesuryddion Blaendalu

Os ydych chi’n cael trafferth rhoi taliadau ar fesurydd, cynghorir chi i gysylltu â’ch cyflenwr ynni. Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan Cyngor ar Bopeth.

ECO4 Flex 

dych chi’n gymwys i wneud cais am gymorth i wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref drwy Gynllun ECO4 Flex.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig