Cynllun ECO4 Flex
Trosolwg
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ynni a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynrychioli 10 awdurdod lleol de-ddwyrain Cymru, i gefnogi cartrefi sydd heb eu hinswleiddio’n dda - a chynorthwyo’r aelwydydd hynny i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a lleihau effaith biliau ynni cynyddol.
Fel rhan o gynllun cenedlaethol ECO4 bydd EDF a chwmnïau ynni eraill yn buddsoddi mewn cynlluniau cymunedol i ddefnyddio ynni’n effeithlon, gan gefnogi cartrefi sy’n wynebu tlodi tanwydd a’r aelwydydd hynny sy’n cynnwys unigolion â chyflyrau iechyd sy’n waeth am eu bod yn byw mewn cartref oer.
Trwy ein partneriaeth gyda CCR ac EDF, rydym yn annog ceisiadau ar gyfer y cynllun ECO4 trwy ECO4 Flex.
Cymhwystra
Mae ceisiadau ar gyfer cynllun ECO4 Flex yn agored i aelwydydd sydd yn:
Berchen ar eu cartrefi neu’n eu rhentu’n breifat, ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Tystysgrif EPC ar gyfer eu cartref sy’n dangos gradd E neu is ac yn
- Derbyn cymorth incwm, neu’n
- Ennill incwm cartref sy’n llai na £31,000 neu’n
- Dioddef o gyflwr iechyd sy’n eu gwneud yn gymwys ee cyflwr cardiofasgwlaidd, resbiradol, cyflwr gwrthimiwnedd neu anawsterau symud
- Os nad ydych yn gwybod beth yw sgôr TPY eich eiddo ar hyn o bryd, rhowch glic ar www.gov.uk/find-energy-certificate
O ran y cartrefi sydd heb nwy ar hyn o bryd, sy’n cael eu gwresogi gan drydan, tanwydd solet, LPG neu olew - gall mesurau nodweddiadol a ariennir, gynnwys:
- Inswleiddio waliau ceudod neu waliau solet
- Inswleiddio atig
- Inswleiddio ystafell mewn to
- Gosod Paneli Ffotofoltaig Solar
- Mesurau gwresogi adnewyddadwy ee Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer
O ran cartrefi sy’n defnyddio nwy i’w gwresogi, mae’r meini prawf canlynol yn berthnasol:
- Rhaid i'ch boeler nwy presennol fod yn foeler cefn neu'n foeler ar lawr
- Rhaid i’ch boeler nwy presennol fod yn 18 oed o leiaf
- Rhaid i’ch boeler presennol fod yn foeler nad yw'n cyddwyso (mae ganddo danc dŵr poeth)
Gwneud cais
gael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am ECO4 Flex ac i wneud cais, ewch i cityenergyportal.powerappsportals.com . Sylwch na allwn dderbyn ceisiadau yn uniongyrchol gan drigolion - rhaid i bob cais ddod drwy’r contractwr City Energy.
Mae’r cynllun ar gael tan 31 Mawrth 2026.
Os ydych yn derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni o dan y cynllun hwn, cofiwch mai rhwng perchennog y cartref a’r contractwr y bydd y contract, ac nid Cyngor Torfaen. Ni fydd y cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled a achosir neu a allai ddod i’r amlwg o dan y cynllun penodol hwn.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/09/2024
Nôl i’r Brig