Benthyciadau i berchen-feddianwyr

Mae  Benthyciadau i berchen-feddianwyr yn fenthyciad di-log gwarantedig a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu perchnogion eiddo cymwys i wneud gwelliannau ac atgyweirio’u heiddo i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel ac yn gynnes. Mae’r Benthyciad ar gael i berchnogion tai a landlordiaid yn ardal Torfaen.

Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 fesul eiddo neu uned. Caiff arian ei dalu o flaen llaw i'r perchennog neu'r landlord a bydd angen ei ad-dalu o fewn:

  • 5 mlynedd os ydych yn landlord; neu
  • 10 mlynedd os ydych yn berchen-feddiannydd

Bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal a phenderfynir pa mor hir y bydd yn rhaid i ymgeisydd ad-dalu'r benthyciad. Os yw'r eiddo yn cael ei werthu o fewn cyfnod y benthyciad, rhaid ad-dalu'r benthyciad ar unwaith. Gellir ad-dalu pob benthyciad yn gynt na diwedd y tymor os yw'r ymgeisydd yn dymuno gwneud hynny.

Sylwch na all unrhyw fenthyciad a gynigir (gan ystyried unrhyw forgais presennol) fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo. Rhaid gwarantu’r benthyciad drwy daliad cyntaf neu ail daliad yn erbyn yr eiddo. Os oes morgais eisoes ar yr eiddo, mae angen i'r benthycwyr ganiatáu i warantu ein tâl.

Gallai eich cartref gael ei adfeddiannu os nad ydych yn ad-dalu’ch benthyciad.

Cynigir yr holl fenthyciadau yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac maent yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

I wneud cais am fenthyciad a chael manylion pellach, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tai ar 01495 742629 neu housingenabling@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Tai

Ffôn: 01495 742629

E-bost: housingenabling@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig