Eiddo Budr a Phryfedog
O bryd i’w gilydd, mae’r Cyngor yn cael gwybod am eiddo sydd wedi dod yn fudr neu’n bryfedog, fel arfer, yn rhinwedd ffordd o fyw’r bobl sy’n byw ynddo. Yn aml, cymdogion, y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu sy’n rhannu’r wybodaeth.
Os yw safle’n fudr neu’n bryfedog, mae’n bosib bod problemau pla o bryfed neu gnofilod yno. Efallai bod gwastraff domestig cyffredinol neu garthffosiaeth wedi cronni, sydd fel arfer yn gysylltiedig â diffyg cadw tŷ.
Mae gan y Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd bwerau o dan Ddeddfau Iechyd y Cyhoedd i gyflwyno Hysbysiadau ffurfiol i feddianwyr neu berchnogion eiddo o'r fath, i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei glirio a’i fod yn cyrraedd safon dderbyniol. Os nad yw'r person sy’n gyfrifol yn cydymffurfio â'r Hysbysiad, mae gan y Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd bwerau i gyflawni'r gwaith angenrheidiol ac adennill costau gan y rheiny sy’n gyfrifol.
Pe bai eiddo o'r fath yn effeithio arnoch chi neu os hoffech gyngor ynglŷn â’r mater, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd ar public.health@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2024
Nôl i’r Brig