Micro Grant Bwyd Busnes
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyfle gwych i fusnesau bwyd sefydledig wneud cais am grantiau rhwng £500 a £2,500 i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch, amrywio eu gweithrediadau presennol, a chreu rhwydweithiau bwyd cynaliadwy newydd a chadwyni cyflenwi.
Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Busnesau Bwyd sefydledig yn Nhorfaen gydag o leiaf 1 mis o fasnachu
Meini prawf
Bydd angen i fusnesau ddangos sut mae eu prosiect yn cyfrannu at un neu fwy o'r Blaenoriaethau Bwyd Da Torfaen canlynol.
- Iechyd
- Ein Cymuned
- Ein swyddi
- Ein haddysg
- Ein Dyfodol
Gweithgareddau Cymwys
Gallwn gefnogi amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys:
- Cyfarpar
- Hyfforddiant a Datblygu
- Tanysgrifiadau
- Marchnata
- Cynnig TG
Efallai y bydd eitemau eraill yn cael eu hystyried
Costau'r Prosiect
Cyllid refeniw yn unig £500 - £2500
Mae pob grant yn gofyn am o leiaf 20% o gyd-daliad gan yr ymgeisydd.
Sut mae'n gweithio?
Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais i fod yn rhan o'r cynllun hwn ddod â syniad arloesol sy'n cefnogi datblygiad eich busnes bwyd ac sy'n dangos bod manteision clir a chanlyniadau cynaliadwy ar gyfer y prosiect.
Chi fydd yn gyfrifol am reoli a rhedeg y prosiect. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'r holl wariant tuag at y prosiect.
Amserlenni Ceisiadau
Bydd gofyn i chi gyflwyno cais erbyn 5pm ddydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel allanol. Rhaid cwblhau'r holl brosiectau erbyn 14Chwefror 2025.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk neu 01633 648735.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/11/2024
Nôl i’r Brig