Diogelwch Caeau Chwaraeon
Yn dilyn cyfres o ddamweiniau difrifol a marwolaethau mewn Meysydd Chwaraeon, daeth i'r amlwg fod angen sicrhau diogelwch meysydd chwaraeon.
Rhoddodd Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 y rheolaeth hon i Awdurdodau Lleol a rhoddodd Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i orfodi'r Deddfau.
Erbyn hyn, o dan Ddeddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975, mae angen tystysgrif diogelwch ar adeiladau mawr sy'n cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr ac sydd â lle i 10,000 neu fwy o gefnogwyr.
O dan Ddeddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987, mae angen tystysgrif diogelwch ar feysydd chwaraeon llai o faint sydd ag eisteddleoedd wedi'u gorchuddio â lle i dros 500 neu fwy o gefnogwyr.
Dylai meysydd chwaraeon eraill nad oes angen tystysgrif arnynt sicrhau nad oes perygl i bobl sy'n gweithio yno (nac i gefnogwyr). Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, yn diogelu pobl sy'n defnyddio'r adeiladau hyn yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau mwy sydd â thystysgrifau.
Er mwyn cyhoeddi Tystysgrif Diogelwch, bydd angen i ni edrych ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys
- Cyfanrwydd adeileddol yr eisteddle/stadia
- Darpariaethau ar gyfer dianc
- Rhagofalon digonol rhag tân
- Prosesau cydlynu gwasanaethau brys
- Darparu strategaethau rheoli addas (h.y. stiwardio, rheoli torfeydd, trefniadau diogelwch diwrnod gêm, gweithdrefnau gwacáu, cynlluniau wrth gefn ac ati).
Os oes arnoch angen tystysgrif diogelwch ar gyfer Maes Chwaraeon neu newid manylion tystysgrif gyfredol, neu os oes arnoch angen tystysgrif diogelwch ar gyfer eisteddle neu newid manylion tystysgrif gyfredol, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i'w cael yma.
Os ydych yn pryderu am safle maes chwaraeon rydych chi'n amau nad oes ganddo dystysgrif diogelwch neu nad yw'n cael ei gynnal yn gywir, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig