Crynodeb o'r Drwydded |
Mae'n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster rheoledig yng Nghymru neu Loegr.
Mae cyfleuster rheoledig yn cynnwys:
- gwaith symudol neu osodiadau sy'n cyflawni gweithgareddau rhestredig
- gweithrediadau gwastraff
- gwaith symudol yn ymwneud â gwastraff
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
Mae gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:
- ynni - gweithgareddau llosgi tanwydd, nwyeiddio, hylifo a phuro
- metelau - gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
- mwynau - gweithgynhyrchu calch, sment, serameg neu wydr
- cemegau - gweithgynhyrchu cemegau, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydron a swmp storio cemegau
- gwastraff - llosgi gwastraff, rhedeg safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
- toddyddion - defnyddio toddyddion
- arall - gweithgynhyrchu papur, mwydion ac estyll, trin cynhyrchion pren, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd a ffermio moch a dofednod yn ddwys
Caiff gweithgareddau rhestredig eu rhannu'n dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.
Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sydd ag amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:
- allyriadau i'r aer, i'r tir ac i ddŵr
- effeithlonrwydd ynni
- lleihau gwastraff
- defnyddio deunyddiau crai
- sŵn, dirgryniad a gwres
- atal damweiniau
Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy'n achosi allyriadau i'r aer.
Bydd y drwydded y mae ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol sydd ynghlwm wrth y gwaith a'r allyriadau a gynhyrchir o ganlyniad.
Mae trwyddedau ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) yn dibynnu ar y categori y mae eich busnes ynddo:
- Caiff gwaith symudol neu osodiadau Rhan A(1) eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Caiff gwaith symudol neu osdiadau Rhan A(2) a Rhan B eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, heblaw gweithrediadau gwastraff a gyflawnir mewn gosodiadau Rhan B sy'n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Caiff gweithrediadau gwastraff neu waith symudol yn ymwneud â gwastraff a gyflawnir ar safle heblaw am safle gosodiad, neu gan waith symudol Rhan A neu Ran B, eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Caiff gweithrediadau gwastraff mwyngloddio eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, a rhaid cynnwys gwybodaeth benodedig a fydd yn amrywio yn ôl y gweithrediadau.
Gallai fod angen talu ffi.
Os bydd angen mwy o wybodaeth, bydd y rheoleiddiwr yn hysbysu'r ymgeisydd a rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth neu ystyrir y bydd y cais wedi'i dynnu'n ôl.
Rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan weithredwr y cyfleuster rheoledig.
Yn achos gweithrediadau gwastraff, ni roddir trwydded oni bai bod unrhyw ganiatâd cynllunio eisoes wedi'i roi.
|
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon
|
Proses Gwerthuso Cais |
Bydd y rheoleiddiwr yn rhoi sylw i amddiffyn yr amgylchedd o'i ystyried yn ei gyfanrwydd gan atal, yn benodol, allyriadau i'r aer, i'r tir ac i ddŵr, neu eu lleihau os nad yw'n ymarferol eu hatal.
Caiff y rheoleiddiwr roi gwybod i'r cyhoedd am y cais a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau.
Rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan weithredwr y cyfleuster rheoledig a rhaid i'r rheoleiddiwr fod yn fodlon bod rhaid iddynt weithredu'r cyfleuster yn unol â'r drwydded amgylcheddol.
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 4 mis ers i'r awdurdod lleol dderbyn bod y cais 'wedi'i wneud'. Caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os oes angen i'r awdurdod lleol ofyn am wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd.
|
Gwneud cais ar-lein |
Os ydych yn dymuno gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen berthnasol isod:
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os gwrthodir rhoi trwydded amgylcheddol i ymgeisydd, caiff apelio i'r awdurdod priodol. Yr Ysgrifennydd Gwladol yw'r awdurdod priodol yn Lloegr, a Gweinidogion Cymru yng Nghymru. Rhaid cyflwyno apeliadau ddim hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os gwrthodwyd cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol neu os yw'r ymgeisydd yn gwrthwynebu amodau a osodwyd ar y drwydded amgylcheddol, caiff apelio i'r awdurdod priodol.
Rhaid cyflwyno apeliadau'n ymwneud ag amrywiad gan reoleiddiwr, hysbysiad atal neu hysbysiad gorfodi, ddim hwyrach na dau fis o ddyddiad yr amrywiad neu'r hysbysiad ac, mewn unrhyw achos arall, ddim hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.
|
Cwynion gan Ddefnyddwyr |
Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
|
Camau Unioni Eraill |
Mae'n bosibl y bydd iawndal yn daladwy mewn perthynas ag amodau sy'n effeithio ar fuddiannau penodol mewn tir.
|
Cymdeithasau Masnach |
Ffederasiwn y Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)
Comisiwn y Diwydiannau Amgylcheddol (EIC)
Cymdeithasau Gwasanaethau Amgylcheddol (ESA)
|