Trwydded Siop a Sinema Ryw - Gwneud Cais am Drwydded
Trwydded Siop a Sinema Ryw
Crynodeb o'r Drwydded |
I redeg siop ryw - hynny yw, unrhyw safle sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - gallai fod angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. I redeg lleoliad lle y mae ffilmiau cignoeth yn cael eu dangos i aelodau'r cyhoedd, bydd angen trwydded arnoch hefyd gan yr awdurdod lleol.
Fodd bynnag, cewch wneud cais i'r awdurdod lleol yn gofyn iddynt roi heibio'r gofyniad am drwydded.
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Mae'n rhaid bod ymgeisydd:
- yn 18 oed o leiaf
- heb fod wedi'i wahardd rhag dal trwydded
- heb fod mewn sefyllfa lle y gwrthodwyd rhoi neu adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf, oni bai bod apêl wedi gwrthdroi'r penderfyniad i wrthod
|
Crynodeb o'r Rheoliad |
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon
Rheoliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
|
Proses Gwerthuso Cais |
Bydd yn rhaid talu ffi am geisiadau a gallai amodau fod ynghlwm.
Rhaid cyflwyno ceisiadau'n ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a rhaid iddynt gynnwys unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar yr awdurdod lleol, ynghyd ag enw a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os unigolyn yw'r ymgeisydd, ei oedran, ynghyd â chyfeiriad y safle.
Rhaid i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o'u cais trwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
|
Gwneud cais ar-lein |
You may apply for a sex shop and cinema licence via gov.uk.
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, neu os gwrthodir adnewyddu trwydded, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y penderfyniad i wrthod.
Fodd bynnag, nid yw'r hawl i apelio yn berthnasol os gwrthodwyd y drwydded ar sail y canlynol:
- bod nifer fwy o sefydliadau rhyw yn yr ardal nag y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn briodol
- byddai rhoi'r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur y safleoedd eraill yn yr ardal, neu natur y safle ei hun
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os yw deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod, gall apelio i Lys Ynadon lleol. Yn yr Alban, gall deiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i'r siryf lleol.
|
Cwynion gan Ddefnyddwyr |
Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
Gall deiliaid trwydded wneud cais i'r awdurdod ar unrhyw adeg i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau sy'n rhan o'u trwydded.
Os caiff cais am amrywio ei wrthod, neu os caiff y drwydded ei diddymu, gall deiliad y drwydded gyflwyno apêl i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am osod neu wrthod amrywio'r telerau, yr amod neu'r cyfyngiad dan sylw neu am ddiddymu'r drwydded.
Hefyd, gall deiliad trwydded apelio i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad gan Lys Ynadon.
|
Camau Unioni Eraill |
Caiff unrhyw un sy'n gwrthwynebu cais am gyflwyno, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded gyflwyno eu gwrthwynebiad yn ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol, gan ddatgan sail y gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais.
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig