Stondinau Marchnad - Gwneud Cais am Drwydded
Stondinau Marchnad
| Crynodeb o'r Drwydded | I rentu stondin yn y farchnad, a fyddech cystal â chysylltu â pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk   Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe gewch gytundeb trwydded. I fusnesau newydd mae’n drwydded masnach brawf o 6 mis gyda hyd at 30% o ostyngiad ar renti. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Wrth ystyried cymhwysedd i gael Stondin Marchnad Dan Do, rhoddir sylw i gynrychiolaeth a'r galw am gynnyrch penodol, ynghyd ag ansawdd y nwyddau a'r gallu i gadw at y Drwydded a roddir gan yr Awdurdod. | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Caiff ceisiadau eu hystyried yn ôl addasrwydd a pha un a oes stondinau ar gael. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. | 
|---|
| Gwneud cais ar-lein | Am gyngor a ffurflen gais cysylltwch â'r Rheolwr Marchnad Dan Do Pontypŵl drwy e-bost ar pontypoolmarketmanager@torfaen.gov.uk neu ffoniwch y farchnad ar 01495 742,757. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. | 
|---|
| Cwynion gan Ddefnyddwyr | Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach | Mae CBS Torfaen yn aelod o NABMA | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 07/12/2022 
 Nôl i’r Brig