Mae'n rhaid i ymgeiswyr roi'r wybodaeth a'r cynlluniau y gofynnir amdanynt i'r awdurdod lleol o fewn yr amser penodedig. Os nad yw'r ymgeisydd yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn y cyfnod penodedig, ystyrir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.
Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a yw unrhyw eisteddle yn ei ardal yn eisteddle rheoledig. Os yw'n penderfynu bod eisteddle penodol yn rheoledig, bydd yn cyflwyno hysbysiad i'r unigolyn yr ymddengys ei fod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch gyffredinol. Bydd yr hysbysiad yn rhoi manylion penderfyniad yr awdurdod lleol ac effeithiau'r penderfyniad.
Pan fydd awdurdod lleol yn cael cais am dystysgrif diogelwch gyffredinol ar gyfer eisteddle rheoledig mewn maes chwaraeon, rhaid iddo benderfynu a yw'r eisteddle yn eisteddle rheoledig ac ai'r ymgeisydd yw'r unigolyn sy'n gymwys i gael tystysgrif. Os yw'r awdurdod eisoes wedi penderfynu bod yr eisteddle yn eisteddle rheoledig a'i fod heb ddiddymu'r penderfyniad hwn, rhaid iddo benderfynu ai'r ymgeisydd yw'r unigolyn sy'n gymwys i gael y dystysgrif diogelwch gyffredinol.
Os yw'r awdurdod lleol yn cael cais am dystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer eisteddle rheoledig, rhaid iddo benderfynu a yw'r ymgeisydd yn gymwys i gael y dystysgrif.
Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch at brif swyddog heddlu'r ardal, i'r awdurdod tân ac achub os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw ac i'r awdurdod adeiladu os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw. Rhaid ymgynghori â phob un o'r cyrff hyn ynghylch y telerau ac amodau a fydd yn cael eu cynnwys mewn tystysgrif.
Os gwneir cais am drosglwyddo tystysgrif, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a fyddai'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo yn gymwys i gael tystysgrif, pe bai'r unigolyn hwnnw yn gwneud cais. Gall yr ymgeisydd fod yn ddeiliad presennol y dystysgrif neu'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo.
Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copi o'r cais at brif swyddog heddlu'r ardal, i'r awdurdod tân ac achub os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw ac i'r awdurdod adeiladu os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw. Bydd yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r cyrff hyn ynghylch unrhyw ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo arfaethedig.
Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cydymffurfio â'r amodau trwyddedu.
Bydd maint a chymhlethdod maes chwaraeon neu eisteddle rheoledig, a gallu rheolwyr y safle i ddarparu gwybodaeth a chyflawni unrhyw waith gofynnol, yn effeithio ar yr amser a fydd ynghlwm wrth y camau amrywiol sy'n angenrheidiol i baratoi, cyhoeddi a monitro Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol. Sylwer, gallai gymryd rhai misoedd i gwblhau'r broses a chyhoeddi tystysgrif.
Pan fydd eich safle wedi cael tystysgrif, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu eich tystysgrif, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses rhoi tystysgrif, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.
Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.
|