Tŷ Amlfeddiannaeth - Gwneud Cais am Drwydded
Tŷ Amlfeddiannaeth
| Crynodeb o'r Drwydded | Os ydych chi'n cynnig tŷ amlfeddiannaeth ar rent, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod lleol. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Rhaid cyflwyno ceisiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sef yr awdurdod tai lleol.   Y ffi yw £708.00 am drwydded 5 mlynedd.   Rhaid eich bod chi'n unigolyn addas a phriodol i ddal y drwydded. | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad yn ymwneud â'r drwydded hon | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Rhoddir trwyddedau: 
os yw'r tŷ yn addas ar gyfer amlfeddiannaeth, neu os gellir ei wneud yn addas ar gyfer amlfeddiannaethos yw'r ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol ac ef/hi sy'n fwyaf priodol i ddal y drwyddedos oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y tŷ a'i fod yn unigolyn addas a phriodol i fod yn rheolwros yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes. | 
|---|
| Sut i ymgeisio | Os ydych yn dymuno cofrestru tŷ amlfeddiannaeth neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais o'r fan hon. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl.   Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl ynghylch amodau sydd ynghlwm wrth drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded.   Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad. | 
|---|
| Apeliadau a Chwynion | Os rhoddir trwydded a'ch bod yn dymuno apelio yn erbyn hynny, cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. sŵn, llygredd, ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach | Ffederasiwn Eiddo Prydain (BPF)   Propertymark | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022 
 Nôl i’r Brig