Cofrestru Tŵr Oeri
Cofrestru Tŵr Oeri
| Crynodeb o'r Drwydded | Os ydych yn gyfrifol am reoli safle annomestig, rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiadau hysbysadwy) ar y safle hwnnw.   Rhaid cyflwyno'r hysbysiad yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) gan ddefnyddio ffurflen a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.   Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a gyflwynwyd o fewn mis o'r newid.   Os yw'r ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol neu gyngor yr ynys neu'r cyngor dosbarth yn ysgrifenedig, a hynny cyn gynted â phosibl. | 
|---|
| Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon  | 
|---|
| Sut i wneud cais | Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gall yr hysbysiad o dyrau oeri a chyddwysyddion anweddol ei lawrlwytho yma. | 
|---|
| Ffïoedd ymgeisio | Nid oes tâl am y broses ymgeisio. | 
|---|
| Y broses ymgeisio | Mae'r broses o gofrestru tŵr oeri yn syml iawn. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn rhoi manylion eich safle ar y Gofrestr Tyrau Oeri. Mae'r gofrestr hon yn ddogfen gyhoeddus.   Pan fydd eich safle wedi'i gofrestru, fe allwn ei arolygu os ydym ni'n gyfrifol am orfodi iechyd a dioglewch arno, neu ei samplu fel rhan o'n rhaglen samplu. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd cofrestru yn effeithio ar eich sgôr risg neu nifer yr arolygiadau a gynhaliwn o'ch safle.   Sylwer, bydd angen i chi newid eich manylion cofrestru os yw eich busnes neu eich tŵr oeri yn newid mewn unrhyw ffordd.   Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan, a gallem hefyd rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gennym erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig. | 
|---|
| Apeliadau a Chwynion | Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. | 
|---|
| Arweiniad arall | Mae gwybodaeth am glefyd y llengfilwyr, mesurau i'w atal a'r gyfraith ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022 
 Nôl i’r Brig