Newidiadau i bleidleiswyr yn etholiadau seneddol a CHTh
Gwnaed newidiadau i'r weithdrefn bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Nid yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau seneddol nac etholiadau lleol yng Nghymru.
Bydd nawr angen i bleidleiswyr ddangos ID â llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau seneddol, is-etholiadau ac etholiadau CHTh.
Dysgwch pa fathau o ID sy’n dderbyniol yma: Mathau o ID Ffotograffig a Dderbynnir
Os nad oes gennych ID a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID Pleidleisiwr am ddim. Gelwir hyn yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.
Gallwch wneud cais yma: Gwneud Cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr
Mae newidiadau eraill yn cynnwys:
- Bydd angen adnewyddu ceisiadau ar lein i bleidleisio drwy ‘r post bob tair blynedd.
- Cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy’r post y gellir eu cyflwyno yn adeiladau'r cyngor neu orsafoedd pleidleisio, i gynnwys eich un chi ac uchafswm o bump arall
- Gofyniad i lenwi ffurflen ymdrin â phleidleisiau drwy’r post pan fydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu dychwelyd â llaw. Os na chaiff ffurflenni eu llenwi, bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu gwrthod.
Mae'r newidiadau hefyd yn golygu y gall pleidleiswyr Prydeinig sy'n byw dramor bleidleisio yn etholiadau'r DU, waeth pa mor hir y maen nhw wedi byw dramor. Erbyn hyn, gall pleidleiswyr dirprwyol weithredu ar ran uchafswm o ddau etholwr domestig a dau bleidleisiwr tramor yn unig.
Rhaid eich bod wedi cofrestru cyn y gallwch bleidleisio mewn unrhyw etholiadau neu i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: Cofrestru i bleidleisio
Diwygiwyd Diwethaf: 12/03/2024
Nôl i’r Brig