Y Canfasiad Blynyddol

Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r cyngor gadarnhau enwau a chyfeiriadau pawb sy'n gymwys i fod ar y gofrestr etholwyr - y rhestr o'r rhai sy'n gallu pleidleisio mewn etholiadau a refferenda. 

Yng Nghymru, gall pobl ifanc gofrestru o 14 oed a phleidleisio mewn rhai etholiadau yn 16 oed. Mae gwladolion tramor hefyd yn gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru. 

Mae'r canfasiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf ac Awst. 

Bydd pob cartref yn Nhorfaen yn derbyn ffurflen ganfasio,. Darllenwch eich ffurflen yn ofalus gan fod angen i chi ymateb os oes angen.

Bydd gwybodaeth am sut i ymateb yn cael ei egluro yn eich llythyr.

Gallwch ychwanegu person cymwys newydd drwy lenwi ei fanylion neu dynnu rhywun oddi ar y gofrestr drwy roi llinell drwy ei enw.  

Sylwer: os oes person cymwys newydd yn eich cartref, bydd angen iddynt gofrestru i bleidleisio ar wahân. Gellir gwneud hyn ar-lein, neu byddwn yn anfon ffurflen gofrestru yn y post.

Os byddai'n well gennych dderbyn eich canfasiad drwy e-bost yn y dyfodol, nodwch hynny pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflen bapur.    

Pam y dylech ymateb os oes angen: 

Mae'n orfodol – gallai methu i wneud hynny arwain at ymddangosiad llys, dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol. 

  • Y rhai ar y gofrestr yn unig sy'n cael pleidleisio. 
  • Gall peidio â chofrestru effeithio ar eich gallu i agor cyfrif banc, cymryd morgais, neu brynu pethau ar gredyd. 
  • Gelwir rheithgorau drwy ddefnyddio’r gofrestr etholiadol. 

Mae'r gofrestr agored yn cael ei thynnu o'r gofrestr etholiadol. I optio allan o'r gofrestr agored, cysylltwch ar voting@torfaen.gov.uk neu ffoniwch y Swyddfa Etholiadau ar 01495 762200.  

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig