Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio
Bob pum mlynedd, mae angen i awdurdodau lleol adolygu dosbarthiadau etholiadol a gorsafoedd pleidleisio lleol i sicrhau eu bod yn gyfleus ac yn hygyrch i bleidleiswyr.
Ym mis Ionawr 2024, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cynlluniau i wneud newidiadau i 14 o orsafoedd pleidleisio a saith dosbarth etholiadol yn Nhorfaen.
Fe fydd y gofrestr etholiadol yn cael ei hailgyhoeddi ar 1 Chwefror, ac anfonwyd llythyron at bob aelwyd y mae’r newidiadau yn effeithio arni.
Dyma’r newidiadau:
Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio
| Enw | Rheswm dros yr adolygiad | Dewis amgen | 
|---|
| Neuadd Eglwys Sant Paul | Nid yw'r adeilad a'r llwybr yn gwbl hygyrch | Adleoli i Ganolfan Hamdden Blaenafon sy'n hygyrch, yn cynnig mannau parcio a goleuadau da. Dim dewis arall. | 
| Neuadd y pensiynwyr Talywaun | Dim parcio a mynediad cyfyngedig i bleidleiswyr anabl | Symud i Glwb Rygbi Talywaun sy’n cynnig goleuadau da, mannau parcio ac mae’n hygyrch. Yr unig opsiwn sydd ar gael. | 
| Gabby’s Diner | Dim parcio na mynediad i'r anabl | Symud i Ganolfan Gymunedol Bryn Seion a chyfuno’r dosbarthiadau pleidleisio. Yr unig opsiynau sydd ar gael. | 
| Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Pontnewynydd | Mae'r adeilad allan o'r ardal | Nid oes unrhyw adeiladau eraill ar gael | 
| Tafarn yr Unicorn | Nid yw'r adeilad bellach ar gael i'w logi | Symud i adeilad Unite, sydd â mannau parcio da ac mae’n hygyrch iawn. Bydd yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad. | 
| Neuadd Eglwys Santes Hilda | Mae'r orsaf bleidleisio ar yr 2il lawr, ac nid yw'r lifft yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid yw'r llawr gwaelod ar gael | Symud i Neuadd Gymunedol Tref Gruffydd. | 
| Neuadd Ambiwlans Sant Ioan | Mae hon yn orsaf ddeuol ond mae’n gyfyngedig iawn. | Symud i Eglwys Lighthouse a Panteg House sy’n bodloni’r gofynion. | 
| Ysgol Gynradd Coed Eva | Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion. | Symud i’r Caban Gwyn a fydd yn dod yn orsaf ddeuol. | 
| Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road | Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion. | Gorsafoedd deuol yn symud i’r Pwerdy a Cheeky Monkeys | 
| Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion | Wedi derbyn ceisiadau i ddychwelyd yr orsaf dros dro yn neuadd yr eglwys i'r ysgol | Symud i adeilad cymunedol ar dir yr ysgol. Mae gan yr adeilad fynediad ar wahân i’r ysgol a gall aros ar agor drwy’r dydd ar y diwrnod pleidleisio. | 
| Cyfuno cofrestri BB a BC yn Neuadd y Mileniwm Garndiffaith |  | Un gofrestr i wella effeithlonrwydd | 
| Cyfuno cofrestri CC a CB |  | Un gofrestr yn lle dwy | 
| Wedi symud CP o Neuadd Mount Pleasant i Ganolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd a chyfuno dosbarthiadau |  | Un gofrestr yng Nghanolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd i leihau nifer y gorsafoedd sydd eu hangen. | 
 
 Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 
 Nôl i’r Brig