Adolygiad o Ffiniau Llywodraeth Leol
Yn dilyn Adolygiad Ffiniau Llywodraeth Leol, mae Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021, wedi'i lofnodi gan y Gweinidog ac mae bellach mewn grym.
Mae'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, wedi eu derbyn, ac maent fel a ganlyn:
- lleihau nifer y cynghorwyr o 44 i 40
- lleihau nifer y wardiau o 24 i 18
- lleihau nifer y cynghorwyr yn ward Greenmeadow o 2 i 1
- lleihau nifer y cynghorwyr yn ward Cwmbrân Uchaf o 3 i 2
- cyfuno wardiau Gogledd Croesyceiliog a De Croesyceiliog a lleihau nifer y cynghorwyr o 3 i 2
- cyfuno wardiau Brynwern, Waunfelin, Pont-y-pŵl a Cwm-ynys-cou a lleihau nifer y cynghorwyr o 4 i 3
- cyfuno wardiau Trefddyn a Phen-y-garn a lleihau nifer y cynghorwyr o 3 i 2
- cyfuno wardiau Pontnewynydd a Choed Llwyd i greu’r ward Pontnewynydd a Choed Llwyd heb ostwng nifer y Cynghorwyr
- cynyddu nifer y cynghorwyr yn ward Llantarnam o 2 i 3
Bydd wardiau etholiadol Llywodraeth Leol, o fis Mai 2022, fel a ganlyn:
Wardiau etholiadol Llywodraeth Cymru o fis Mai 2022
| Ward Etholiadol | Nifer yr aelodau cyn | 
|---|
| Abersychan | 3 | 
| Blaenafon | 3 | 
| Coed Eva | 1 | 
| Croesyceiliog | 2 | 
| Fairwater | 2 | 
| Dôl Werdd | 1 | 
| Llantarnam | 3 | 
| Llanyrafon | 1 | 
| Llanfrechfa a Phonthir | 1 | 
| Y Dafarn Newydd | 3 | 
| Panteg | 3 | 
| Pontnewydd | 3 | 
| Pontnewynydd a Choed Llwyd | 2 | 
| Pont-y-pŵl Fawr | 3 | 
| Sain Derfel | 2 | 
| Trefddyn a Phen-y-garn | 2 | 
| Dwy Loc | 3 | 
| Cwmbrân Uchaf | 2 | 
 Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2021 
 Nôl i’r Brig