Newidiadau i'r gofrestr etholiadol
Gallwch ofyn am newidiadau i'r gofrestr etholiadol yn ystod y canfasio blynyddol neu ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.
Canfasio blynyddol ar gyfer y gofrestr etholiadol
Bob blwyddyn yn ystod yr haf, rydym yn gwirio bod y wybodaeth sy'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol yn gywir ac yn gyfoes. Byddwch yn derbyn ffurflen ymholiad blynyddol yn y post.
Bydd y ffurflen ymholiad blynyddol yn eich caniatáu i:
- gywiro unrhyw gamgymeriadau
- ychwanegu pobl yn eich cartref i’r gofrestr (er enghraifft, gall eich plant fod wedi cyrraedd 16 oed)
- gwneud cais am bleidlais drwy’r post
- tynnu’ch enw oddi ar y gofrestr sydd wedi’i golygu
Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen hon. Os nad ydych yn cwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr etholiadol ac ni fyddwch yn gallu pleidleisio a bydd yn anoddach i chi gael credyd
Os nad oes unrhyw newidiadau gallwch ymateb drwy alw rhadffôn, anfon neges testun, dweud hynny ar lein neu drwy’r post. Dim ond drwy ddychwelyd y ffurflen neu ei llenwi ar lein y gallwch wneud newidiadau www.register-online.co.uk.
Gwneud cais am newidiadau tu allan i ganfasio blynyddol
Os bydd eich amgylchiadau yn newid ar ôl y canfasio blynyddol, fel symud cartref neu newid eich enw, bydd angen i chi ailgofrestru.
Symud cartref
Os ydych yn symud adref ar ôl y canfasio blynyddol, bydd angen i chi ailgofrestru. Cofiwch bydd angen i bob person sy’n gymwys i bleidleisio yn y cartref gofrestru’n unigol. Ewch i’r gofrestr i bleidleisio ac i ddarganfod sut i bleidleisio.
Newid eich enw
Os yw eich enw yn newid, er mwyn diweddaru’r gofrestr etholiadol, bydd angen i gwblhau ac arwyddo ffurflen newid enw (PDF). Ni ellir gwneud hyn ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu dogfen berthnasol fel copi o’ch tystysgrif priodas, gweithred newid enw neu dystysgrif geni ddiwygiedig i gefnogi’r ffurflen
Dewis cael eich cynnwys neu beidio ar y gofrestr agored
Mae dwy gofrestr.
Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac sy’n cael ei defnyddio am resymau etholiadol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhesymau cyfyngedig eraill yn ôl y gyfraith, fel datgelu trosedd, galw pobl ar gyfer gwasanaeth rheithgor a gwirio am geisiadau credyd.
Mae’r gofrestr agored yn rhan o’r gofrestr etholiadol ac nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad brynu’r rhestr hon am resymau marchnata. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu oddi yno. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio
Rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol ond gallwch benderfynu tynnu eich enw oddi ar y gofrestr agored. Os ydych yn dymuno newid eich statws o ran cael eich cynnwys neu beidio, cysylltwch â ni.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/10/2019
Nôl i’r Brig