Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau
O flwyddyn ariannol 2012/13 ymlaen, mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPfW) yn mynnu bod pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn cynhyrchu, cyhoeddi a chynnal Atodlen flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau.
Mae'n rhaid i'r Atodlen gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Aelodau a enwyd sydd i dderbyn y Cyflog Sylfaenol yn unig.
- Aelodau a enwyd sydd i dderbyn Cyflog Uwch Band 1 a Band 2, y swydd a'r portffolio a ddelir a'r swm sydd i'w dalu
- Aelodau a enwyd sydd i dderbyn Cyflog Uwch Band 3 a Band 4, y swydd a'r portffolio a ddelir a'r swm sydd i'w dalu
- Aelodau a enwyd sydd i dderbyn y ffi Aelod Cyfetholedig a pha un a ydynt yn gadeirydd neu'n aelod cyffredin
Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Panel am unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r Atodlen yn ystod y flwyddyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Mae'n rhaid i'r Atodlen gadarnhau nad aethpwyd yn uwch na'r terfyn uchaf a bennwyd ar Cyflogau Uwch yn y cyngor, ac mae'n rhaid iddi hefyd gynnwys datganiad ynghylch dyletswyddau a ganiateir y gall aelodau hawlio costau gofal, teithio a chynhaliaeth ar eu cyfer. Dylai hefyd gynnwys y canlynol:
-
Pa un a oes datganiad wedi'i sefydlu ynghylch cyfrifoldeb sylfaenol cynghorydd
-
Pa un a oes disgrifiadau rôl wedi'u sefydlu ar gyfer deiliaid swyddi cyflog uwch
-
Pa un a yw cofnodion yn cael eu cadw o bresenoldeb cynghorwyr
-
Pa un a yw cofnodion yn cael eu cadw o unrhyw weithgarwch gan gynghorwyr
-
Pa un a yw adroddiadau blynyddol yn cael eu paratoi gan gynghorwyr, a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor.
Gellir gweld Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2024/2025 Torfaen yma
Diwygiwyd Diwethaf: 22/07/2024
Nôl i’r Brig